Ewch i’r prif gynnwys

Amlygu creadigrwydd digidol a phrofiadau ar-lein menywod du

1 Hydref 2020

The Digital Lives of Black Women in Britain book cover

Mae creadigrwydd menywod du ar flaen y gad o ran newidiadau yn y cyfryngau a chynhyrchu digidol ym Mhrydain, yn ôl academydd o Brifysgol Caerdydd.

Mae Dr Francesca Sobande, o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, wedi rhannu canfyddiadau allweddol o'i phrosiect pum mlynedd sy’n ceisio llenwi bwlch o ran gwybodaeth ym mywydau digidol a bywydau bob dydd menywod Du ym Mhrydain. Mae ei hymchwil yn dangos sut mae menywod Du ym Mhrydain yn defnyddio adnoddau digidol mewn ffyrdd creadigol, cydweithredol a blaengar. Mae'r prosiect hefyd yn amlygu natur dreiddiol y camdriniaeth ar-lein tuag at fenywod Du ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â sut mae creadigrwydd digidol a gwaith caled menywod Du yn cael eu haddasu a'u defnyddio gan eraill.

Mae gwaith Dr Sobande yn cael ei gyfleu yn ei llyfr newydd, The Digital Lives of Black Women in Britain, sy'n nodi tirwedd newidiol Prydain o ran cynrychiolaeth yn y cyfryngau.

Llunnir y llyfr gan ymagweddau ffeministaidd Du ac mae'n seiliedig ar ymchwil a ddechreuodd yn 2015. Mae'n defnyddio deunyddiau o Archifau Diwylliannol Du (BCA) Brixton, Llundain, ac archif digidol Spare Rib yn y Llyfrgell Prydeinig, yn ogystal â chyfweliadau gyda llawer o fenywod Du.

Dywedodd Dr Sobande: "Mae datblygiadau digidol yr unfed ganrif ar hugain, fel cynnydd yn nefnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, wedi effeithio ar y ffordd y mae pobl yn creu, yn gweithio ac yn rhannu gwybodaeth. Mae creadigrwydd a gwaith digidol menywod Du ar flaen y gad o ran llawer o newidiadau sylweddol o ran cynhyrchu cyfryngau, creadigol a diwylliannol ym Mhrydain, ac eto anaml y cânt gydnabyddiaeth gyhoeddus barhaus a ffynonellau sylweddol o gymorth sefydliadol hirdymor.

"Mae profiadau digidol menywod Du ym Mhrydain yn aml yn cael eu heffeithio'n sylweddol gan gamdriniaeth ar-lein rheolaidd o ganlyniad i wrthwynebiad i bobl Dduon, rhywiaeth, casineb at fenywod, dosbarthiaeth, lliwiaeth, senoffobia a gorthrymder eraill sy'n ymwneud â'i gilydd.

"Er bod busnesau'n ystyried menywod Du yn  'arweinwyr' digidol yn fwy nag erioed, maent hefyd yn cael eu diystyru a'u hamlygu ar yr un pryd fel crewyr, cynhyrchwyr gwybodaeth, ac arweinwyr o ran mudiadau cymdeithasol. Mae creadigrwydd digidol menywod Du yn aml yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau masnachol, gan gynnwys brandiau sy'n ceisio 'arallgyfeirio' eu delwedd oherwydd ei phroffidioldeb posibl."

O hanesion am weithredu yn ystod yr ugeinfed ganrif a’r hyn a gynrychiolir ar y teledu, i brofiadau menywod Du ar YouTube a Twitter, mae llyfr Sobande yn pontio tensiynau rhwng nodweddion cymunedol, gwrth-ddiwylliannol a masnachol y diwylliant digidol.

Ychwanegodd: "Mae fy ngwaith hefyd yn dangos sut mae allfeydd digidol wedi cyfrannu at weithredu a chefnogaeth ryngwladol dros faterion sy’n hybu achos pobl Dduon, gan gynnwys mewn cysylltiad â mudiad Black Lives Matter. Yn union fel 'mae'r personol yn wleidyddol', mae weithiau yn 'ddigidol' hefyd."

Gallwch brynu Digital Lives of Black Women in Britain gan Palgrave Macmillan yma (ar ffurf elyfr neu mewn print).

Mae Penodau 2 a 4 ar gael ar ffurf mynediad agored dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution 4.0 ar link.springer.com. Gellir eu gweld yma:

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.