Ewch i’r prif gynnwys

Mae chwarae gyda doliau yn gweithredu rhannau o'r ymennydd sydd ynghlwm wrth empathi a sgiliau cymdeithasol - astudiaeth newydd

1 Hydref 2020

Dr Sarah Gerson with participant

Mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi defnyddio niwrowyddoniaeth am y tro cyntaf i archwilio'r effaith y mae chwarae gyda doliau yn ei chael ar blant.

Mewn astudiaeth 18 mis o hyd, bu'r tîm yn monitro gweithgaredd ymennydd 33 o blant, rhwng pedair ac wyth oed, wrth iddynt chwarae gyda doliau.

Fe wnaethant ddarganfod bod chwarae gyda doliau yn gweithredu rhannau o'r ymennydd sy'n caniatáu i blant ddatblygu empathi a sgiliau prosesu gwybodaeth gymdeithasol, hyd yn oed pan oeddent yn chwarae ar eu pennau eu hunain.

Ar ben hynny, daeth i'r amlwg bod y rhan hon o'r ymennydd yn gweithio llai pan roedd plant yn chwarae gyda llechen neu gyfrifiaduron ar eu pennau eu hunain.

Cyhoeddir canfyddiadau’r astudiaeth heddiw yn y cyfnodolyn Frontiers in Human Neuroscience.

Dywedodd yr awdur arweiniol Dr Sarah Gerson, uwch-ddarlithydd yng Nghanolfan Gwyddoniaeth Datblygiadol Dynol Prifysgol Caerdydd: “Mae hwn yn ganfyddiad hollol newydd. Mae'r ffaith ein bod wedi gweld rhan ôl yr uwch-swlcws arleisiol (pSTS) yn weithredol yn ystod ein hastudiaeth yn dangos bod chwarae gyda doliau yn eu helpu

i ymarfer rhai o'r sgiliau cymdeithasol y bydd eu hangen arnynt yn ddiweddarach yn eu bywydau. Gan fod y rhan hon o'r ymennydd wedi chwarae rôl debyg o ran cefnogi empathi a phrosesu cymdeithasol dros chwe chyfandir, mae'r canfyddiadau hyn yn debygol o fod yn berthnasol mewn unrhyw wlad."

Defnyddiodd Dr Gerson a chydweithwyr dechnoleg niwroddelweddu newydd - sbectrosgopeg bron-is-goch swyddogaethol (fNIRS) - er mwyn sganio gweithgaredd yr ymennydd tra roedd y plant yn symud o gwmpas.

Daeth i'r amlwg bod y pSTS, rhan o'r ymennydd sydd ynghlwm wrth brosesu gwybodaeth cymdeithasol megis empathi, yn weithredol hyd yn oed pan roedd plant yn chwarae gyda doliau ar eu pennau eu hunain, waeth beth oedd eu rhyw.

"Rydyn ni'n defnyddio rhan hon yr ymennydd wrth feddwl am bobl eraill, yn enwedig wrth feddwl am feddyliau neu deimladau person arall", meddai Dr Gerson.

"Mae doliau yn eu hannog i greu eu byd bach eu hunain, yn hytrach na gemau datrys problemau neu adeiladu er enghraifft. Maent yn annog plant i feddwl am bobl eraill a sut allen nhw ryngweithio â'i gilydd."

Yr astudiaeth hon, a gynhaliwyd gyda Mattel, crewyr Barbie, yw'r tro cyntaf i ddata niwroddelweddu gael ei ddefnyddio i amlygu sut mae'r ymennydd ar waith yn ystod chwarae doliau naturiol. Yn hyn o beth, dywed yr ymchwilwyr ei fod yn gam ymlaen o ran dealltwriaeth gwyddoniaeth ddatblygiadol o'r math hwn o chwarae.

Yn yr astudiaeth, cafodd y chwarae ei rannu'n ddwy ran fel bod modd i dîm Caerdydd nodi gweithgaredd yr ymennydd oedd yn cyd-fynd â phob math o chwarae ar wahân - chwarae gyda'r doliau ar eu pennau eu hunain; chwarae gyda'r doliau gyda pherson arall (cynorthwy-ydd ymchwil); chwarae gêm ar lechen ar eu pennau eu hunain a chwarae gêm ar lechen gyda pherson arall (cynorthwy-ydd ymchwil).

Roedd y doliau a ddefnyddiwyd yn cynnwys sawl Barbie a set. Cynhaliwyd y chwarae ar lechen gan ddefnyddio gemau sy'n galluogi plant i gymryd rhan mewn chwarae agored a chreadigol (yn hytrach na gêm sy'n seiliedig ar reol neu gôl) i gynnig profiad chwarae tebyg i'r chwarae gyda doliau.

Dengys yr astudiaeth bod plant yn dangos yr un lefelau o weithrediad pSTS wrth chwarae gyda'r doliau ar eu pennau eu hunain ac wrth chwarae gydag eraill. Pan adawyd y plant ar eu pennau eu hunain i chwarae gemau llechen, roedd y pSTS yn gweithio llai, er bod y gemau'n edrych fel eu bod yn cynnwys elfen eithaf creadigol.

Dywedodd yr ymchwilwyr mai'r astudiaeth yw'r cam cyntaf tuag at ddeall effaith chwarae doliau a bod angen gwaith pellach i adeiladu ar y canfyddiadau cychwynnol hyn. Mae Dr Gerson a thîm Prifysgol Caerdydd, ynghyd â Mattel, wedi ymrwymo i astudiaethau niwrowyddoniaeth pellach yn 2021.