Ewch i’r prif gynnwys

Llywydd newydd y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Astudio Deintyddiaeth Gymunedol (BASCD)

28 Medi 2020

Daeth Maria Morgan, Uwch-ddarlithydd iechyd deintyddol y cyhoedd yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd ac Arbenigwr Anrhydeddus mewn Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Llywydd y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Astudio Deintyddiaeth Gymunedol (BASCD) mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol rhithwir ddydd Iau 24 Medi 2020.

Mae Maria, a hyfforddodd yn wreiddiol ym maes maeth, wedi gweithio ym maes iechyd deintyddol y cyhoedd yng Nghymru ers 1997, gan arwain gwaith Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru yng Nghaerdydd yn goruchwylio'r rhaglen epidemioleg genedlaethol a monitro Designed to Smile a Gwên Am Byth. Hi yw'r arbenigwr iechyd cyhoeddus anghlinigol cyntaf i fod yn Llywydd y gymdeithas nodedig.

Dywedodd Maria "Rwy'n ei theimlo'n anrhydedd fawr mai fi yw Llywydd anghlinigol cyntaf BASCD, cymdeithas y mae gen i feddwl mawr ohoni ac sydd wedi bod yn bwysig iawn i fy natblygiad personol i. Os ystyriwch y diffiniad ffurfiol o iechyd cyhoeddus, yn enwedig y rhan "gwyddoniaeth a chelf", rwyf am i'm cyfnod i hyrwyddo'r ffaith ein bod yn gymdeithas amlddisgyblaethol sy'n helpu i ddatrys problemau amlochrog."

Mae Maria hefyd wedi'i chofrestru fel arbenigwr gyda UKPHR ac mae'n gymrawd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd. Yn ystod ei chyfnod yn llywydd mae'n gobeithio gweld cydweithio agosach rhwng y tri sefydliad.

Mae BASCD yn ceisio hybu iechyd geneuol cadarnhaol, atal clefyd y geg a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb.  Ymhlith yr aelodau mae ymgynghorwyr iechyd cyhoeddus deintyddol, aelodau o dimau'r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol, a phersonél anghlinigol o feysydd cysylltiedig (maeth, seicoleg, cymdeithaseg, ystadegau ac ati)

Dywedodd Maria "Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn ddiddorol a dweud y lleiaf.  Mae pob un ohonom ni wedi gorfod ymdopi â heriau personol a phroffesiynol.  Roedd yn hynod siomedig nad oeddwn i'n gallu eich croesawu i Gaerdydd ym mis Ebrill ar gyfer fy nghynhadledd lywyddol; rwy'n gobeithio y cawn ymgynnull yma yn fy ninas gartref y flwyddyn nesaf."

Yn y cyfamser, cynhelir cyfres gweminar: Tystiolaeth, Polisi ac Ymarfer, realiti COVID-19 a deintyddiaeth dros dair noson rhwng 2, 3, 4 Rhagfyr 2020. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: http://www.bascd.org/conferences-and-events/

Rhannu’r stori hon