Mae Prifysgol Caerdydd yn ailenwi'r Ysgol i adlewyrchu ffocws newydd ar gyfer y dyfodol
28 Medi 2020
Ar 1 Hydref 2020, bydd enw Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr yn newid i Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd.
Bydd yr Ysgol yn newid ei henw i Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd er mwyn adlewyrchu ehangder yr ymchwil a’r addysgu yn well.
Mae'r enw newydd yn cyd-fynd yn dda â'r ymwybyddiaeth a’r ffocws a godwyd yn ddiweddar ar gynaliadwyedd amgylcheddol ar draws gweithgareddau'r Brifysgol ac o fewn y gymdeithas ehangach. Mae'n ymateb pendant i’r datganiad o Argyfwng Hinsoddol a wnaed yn gynharach eleni gan Brifysgol Caerdydd a bydd yn cynyddu gwelededd, cyrhaeddiad a chydweithrediad addysg ac ymchwil amgylcheddol ar draws y sefydliad.
Yn ôl Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Ian Hall, mae'r newid enw'n "tanlinellu angenrheidrwydd a phwysigrwydd gwyddor y Ddaear a'r amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn ein cymdeithas heddiw."
Wrth i'r astudiaethau'r Ddaear esblygu, mae rôl Prifysgol Caerdydd yn archwilio deinameg a phrosesau'r blaned sy'n newid yn barhaus wedi datblygu.
Meddai'r Athro Hall, "Mae enw newydd ein Hysgol yn cydnabod sut mae meysydd gwyddor y Ddaear a'r amgylchedd wedi esblygu i gwmpasu astudio prosesau newid yn yr hinsawdd a'r atebion sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r mater.
"Mae'r newid enw yn adlewyrchu'r amrywiaeth cynyddol o gwestiynau mae ein cyfadran yn eu holi ac yn eu hateb am ddynameg y Ddaear. Ymhellach, mae'n cydnabod sut mae ein gwyddonwyr Daear ac amgylcheddol yn gwneud darganfyddiadau sy'n cefnogi dyfodol bywyd ar ein planed."
Fel rhan o ail-frandio’r Ysgol, caiff tair rhaglen gradd eu cynnig wedi'u teilwra i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr amgylcheddol, gan gynnwys gradd israddedig newydd mewn Gwyddoniaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol (BSc) a dwy radd meistr newydd mewn Dŵr mewn Byd Sy'n Newid (MSc) a Pheryglon Amgylcheddol (MSc).
I nodi'r newid enw, bydd yr Ysgol yn arddangos peth o'r gwaith gwych y mae'r staff a'r myfyrwyr yn ei wneud i helpu i ddatrys problemau amgylcheddol hollbwysig. Bydd y gwaith i'w weld ar wefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol yr Ysgol yn fuan.
Mae tarddiad astudiaethau'r Ddaear a'r gwyddorau daearyddol yng Nghaerdydd yn deillio o 1891 gyda phenodi S.W. Galloway yn athro a Phennaeth yr adran Mwyngloddio.
"Gyda ffocws a chyfeiriad newydd, rydym ni’n llawn cyffro i weld beth a ddaw i Ysgol y Ddaear a Gwyddorau Amgylcheddol yn y dyfodol," meddai'r Athro Hall.
Caiff yr enw newydd ei ddefnyddio o 1 Hydref 2020 ymlaen.