Ewch i’r prif gynnwys

Mae sŵn yn llygru ein dyfroedd

23 Medi 2020

River with small waterfall

Nid plastig yw'r unig lygrydd sy'n effeithio ar ein llynnoedd, ein hafonydd a'n cefnforoedd, wrth i ymchwil newydd ddatgelu effeithiau niweidiol llygredd sŵn ar fywyd dyfrol.

Gyda'n byd yn troi’n gynyddol swnllyd dyw effaith llygredd sŵn ddim yn gyfyngedig i bobl; mae'n effeithio ar fywyd dyfrol hefyd. Am y tro cyntaf, mae ymchwil yn Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd wedi datgelu gwybodaeth hanfodol am sut y gallai dod i gysylltiad â sŵn niweidio pysgod.

Mae mwy o rywogaethau pysgod dan fygythiad difodiant nag unrhyw grŵp arall o fertebratau. Mae ymchwil i gynnal eu cynefinoedd a'u lles yn hanfodol ar gyfer ymdrechion cadwraeth.

Dywedodd Numair Masud, Myfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig yn Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Mae pobl yn aml yn meddwl bod y byd tanddwr yn dawel, ond mae'r myth hwn yn cael ei chwalu'n araf. Mae llygredd sŵn bellach yn cael ei gofnodi ym mhob cynefin ac rydym ni'n dechrau sylweddoli cymaint yw ei ddylanwad ar les anifeiliaid."

Mae'r astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd yn Royal Society Open Science, yn edrych ar sut mae lefelau sŵn a geir mewn cyfleusterau dyframaethu a chynefinoedd naturiol yn effeithio ar dueddiad pysgod i gael clefydau a’u cyfraddau marwolaeth.

"Hyd yma, roedd yn wybyddus fod pysgod a amlygwyd i sŵn wedi dangos ymddygiad annormal, ymatebion cynyddol i straen a hyd yn oed farwolaeth. Yn yr ymchwil newydd hon, rydym yn dangos am y tro cyntaf sut mae pysgod sy'n cael eu hamlygu i sŵn acíwt yn llawer mwy tebygol o gael clefydau o'u cymharu â physgod sy'n profi sŵn cefndir yn unig.

"Yn drawiadol, fe welsom hefyd mai pysgod a amlygwyd i sŵn cronig oedd yn dangos yr effaith isaf o bathogenau. Fodd bynnag, roedd cyfraddau marwolaeth y pysgod hyn yn dueddol i fod lawer uwch o'u cymharu â physgod na amlygwyd i unrhyw sŵn a hyd yn oed sŵn acíwt - gan awgrymu cyfaddawd angheuol.

"Gyda sŵn a gynhyrchir gan bobl bellach yn cael ei gofnodi ym mhob cynefin dyfrol, mae'n bwysig i ni ddeall sut y bydd hyn yn dylanwadu ar les pysgod. Gyda heintiau pathogen yn gyffredin mewn cynefinoedd dynol a naturiol, gall deall sut y maen nhw'n ymateb i lygredd sŵn helpu gyda strategaethau lliniaru clefydau ar gyfer ein diwydiannau bwyd sy'n parhau i wynebu colledion enfawr yn sgil clefydau heintus, yn ogystal â helpu gyda'r argyfwng o ran difodiant pysgod," ychwanegodd Numair Masud.

Rhannu’r stori hon