Ewch i’r prif gynnwys

Hanesydd o Gaerdydd yn ennill Gwobr Llyfr Rhwydwaith Hanes Menywod

15 Medi 2020

Hanesydd ffeministaidd sy’n arbenigo yn niwedd cyfnod canoloesol Lloegr yn ennill y wobr fawreddog yn 2020

Mae hanesydd canoloesol o Gaerdydd, Dr Bronach Kane, wedi ennill y wobr am ei llyfr Popular Memory and Gender in Medieval England: Men, Women and Testimony in the Church Courts, c.1200-1500.

Dyfernir Gwobr Llyfr Rhwydwaith Hanes Menywod bob blwyddyn ar gyfer monograff cyntaf gan un awdur sy’n canolbwyntio ar hanes menywod neu hanes rhywedd yn y DU.

Mae Dr Kane yn Uwch-ddarlithydd Hanes Canoloesol, ac mae wedi ennill gwobr 2020 ar gyfer llyfrau a gyhoeddwyd yn 2019. Nododd y beirniaid bod Popular Memory and Gender in Medieval England "yn astudiaeth wreiddiol, uchelgeisiol, hyddysg a soffistigedig o ran theori".

O safbwynt rhywedd a goddrychedd, mae’r llyfr yn herio naratifau confensiynol sydd wedi cysylltu atgofion menywod â bywyd cartref wrth wreiddio atgofion dynion mewn bywyd cyhoeddus. Mae'n cyfleu bywyd bob dydd yn Lloegr ganoloesol y tu hwnt i'r elît drwy fanylion cofnodion llysoedd eglwysig. Mae tystiolaeth fyw yn achosion priodasau, difrïo a dyledion, yn ogystal â degymau, ewyllysiau a hawliau eglwysig, yn dangos sut roedd dynion a menywod yn meddwl am y gorffennol ac yn cyflwyno eu hanesion eu hunain.

Mae Dr Bronach Kane yn ymchwilio i berthnasoedd rhywedd, benyweidd-dra a gwrywdod ymysg pobl statws is yn eu bywydau bob dydd, gan droedio hanes emosiynau fel ffordd o ymchwilio i ryw, canlyn, priodas ac atgenhedlu.

Agorodd Gyfres Seminarau Hydref y Rhwydwaith Hanes Menywod gyda sgwrs ar-lein arbennig ar yr ymchwil hon, ar ôl cyhoeddi'r wobr. Enillodd y wobr o £500 yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Rhwydwaith Hanes Menywod, a gynhaliwyd ar-lein yn gynharach y mis hwn.

Cyhoeddir Popular Memory and Gender in Medieval England: Men, Women and Testimony in the Church Courts, c.1200-1500 gan Boydell a Brewer yn rhan o gyfres Gender in the Middle Ages.

Rhannu’r stori hon