Ewch i’r prif gynnwys

Y Gweinidog Mewnfudo'n ymweld â'r Ysgol Peirianneg

10 Medi 2020

Yr wythnos hon daeth Kevin Foster AS, Gweinidog Mewnfudo Llywodraeth y DU, i ymweld â'r Ysgol Peirianneg a chafodd daith o amgylch y Labordy Ymchwil Foltedd ac Ynni Uchel.

Ymunodd Kevin Foster AS â thrafodaeth bord gron gydag uwch academyddion Prifysgol Caerdydd a saith myfyriwr rhyngwladol o'r Ysgol Peirianneg i glywed eu barn ar astudio dramor. Amserwyd ymweliad y Gweinidog i gyd-fynd â chyhoeddi y bydd llwybrau mewnfudo rhyngwladol newydd i fyfyrwyr yn agor yn gynnar. Mae'r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y bydd y 'llwybr myfyrwyr', sy'n rhan o system fewnfudo newydd yn seiliedig ar bwyntiau, yn agor ar 5 Hydref 2020 i'r myfyrwyr rhyngwladol gorau a disgleiriaf o bob cwr o'r byd.

Cafodd rhai o fyfyrwyr rhyngwladol yr Ysgol Peirianneg, sydd â phrofiad uniongyrchol o bolisïau'r llywodraeth ac a allai elwa o newidiadau a gadarnhawyd i gyfreithiau mewnfudo, gyfle i rannu eu profiadau gyda'r Gweinidog.

Croesawyd y Gweinidog gan Bennaeth yr Ysgol Peirianneg, yr Athro Jianzhong Wu, a chafodd daith o amgylch y Labordy Ymchwil Foltedd ac Ynni Uchel, rhan o'r Ganolfan Ymchwil Peirianneg Uwch Foltedd Uchel, a ddefnyddir ar gyfer ymchwil i systemau foltedd uchel a ffenomena mewn cymwysiadau pŵer trydanol a thrafnidiaeth.

Gan fod miliynau o gartrefi a busnesau'n dibynnu ar y Grid Cenedlaethol, mae ymchwil beirianyddol mewn systemau ynni trydanol foltedd uchel yn bwysig iawn ar gyfer diogelu rhag ymchwyddiadau, atal toriadau trydan a sicrhau diogelwch, sicrwydd ac effeithlonrwydd y Grid ar draws y DU.

Hoffai'r Ysgol Peirianneg ddiolch i Mr Foster am ymweld a gobeithio y gellir trosi rhai o'r trafodaethau'n gamau cadarnhaol er budd ein cymuned ryngwladol yn y dyfodol.

Yn dilyn ei ymweliad â'r Ysgol Peirianneg, cyfarfu'r Gweinidog â chynrychiolwyr y Grŵp Astudio. Cafwyd cyfnewid barn agored a chadarnhaol yn y cyfarfod, gyda Phrif Swyddog Gweithredol y Grŵp Astudio, Emma Lancaster, yn rhannu ei hargraffiadau o wahanol systemau fisa i fyfyrwyr ledled y byd ynghyd a chanfyddiad teuluoedd a myfyrwyr o'r rhain.

Rhannu’r stori hon