Ewch i’r prif gynnwys

Dŵr a glanweithdra i bawb yn ystod pandemig

10 Medi 2020

Yng nghyd-destun pandemig presennol COVID-19, mae ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Môr yn ystyried her hylendid dwylo mewn byd dŵr sy'n newid ac yn cynnig argymhellion ar sut i wella iechyd a lles pobl drwy leihau’r ansicrwydd ynghylch dŵr mewn cartrefi.

Mae hylendid dwylo yn hanfodol fel bod llai o glefydau heintus fel Covid-19 yn cael eu trosglwyddo, ond nid oes gan filiynau o bobl y dŵr sydd ei angen i olchi dwylo.

Un o'r mesurau amddiffynnol mwyaf hanfodol yn erbyn y coronafeirws yw golchi dwylo'n aml gyda sebon a dŵr, am o leiaf 20 eiliad. Fodd bynnag, nid yw hyn yn bosibl i'r 40% o aelwydydd yn fyd-eang sydd heb gyfleusterau golchi dwylo sylfaenol. Nid her i wledydd incwm isel a chanolig yn unig yw hyn. Mae llawer o deuluoedd tlotach mewn gwledydd incwm uchel hefyd yn cael problemau tebyg sy’n ymwneud â dŵr, glanweithdra a hylendid.

Mewn erthygl a gyhoeddwyd yn Nature Sustainability, mae ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr yn myfyrio ar bwysigrwydd gwella’r sefyllfa ar fyrder yn y maes hwn er mwyn sicrhau bod dŵr a glanweithdra ar gael i bawb ac yn cael eu rheoli'n gynaliadwy.

Rhannu’r stori hon