Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Sepsis yn taflu goleuni ar y cysylltiadau rhwng COVID-19 a sepsis ar gyfer Diwrnod Sepsis y Byd

3 Medi 2020

World Sepsis Day 2020

Mae prosiect ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn dod â chlinigwyr, cleifion a gwyddonwyr at ei gilydd mewn digwyddiad cydweithredol ar-lein sy'n arddangos y cysylltiadau rhwng pandemig COVID 19 a sepsis.

Cynhelir y digwyddiad ar 14 Medi i nodi Diwrnod Sepsis y Byd, a bydd yn edrych ar elfennau tebyg a chysylltiadau clinigol rhwng y ddau gyflwr, a'r ffordd y mae COVID-19 a'r system imiwnedd yn gallu achosi niwed difrifol.

Mae sepsis yn gyflwr sy'n bygwth bywyd a gaiff ei sbarduno gan haint o unrhyw fath, bacteriol, feirol neu ffwngaidd, a gall effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw oed. Fodd bynnag, mae’n fwy cyffredin mewn poblogaethau bregus fel pobl hen iawn. Mae’n anodd gwneud diagnosis o'r cyflwr gan fod y symptomau cynnar yn gallu bod yn gynnil dros ben. Heb driniaeth, gall arwain at farwolaeth ymhen oriau.

Yn ôl ymchwil ragarweiniol, gall cleifion sydd wedi cael COVID-19 yn ddifrifol fod â risg o ddatblygu sepsis feirol yn sgil haint feirol coronafeirws gyda'r rheini sy'n goroesi gofal dwys yn fwy agored i ddatblygu sepsis yn sgil heintiau dilynol.

Bydd y weminar ar-lein yn plethu naratifau gan arbenigwyr ar draws amrywiol feysydd sydd wedi bod yn ymchwilio i'r cyswllt rhwng y ddau gyflwr, o ofal dwys i ymchwil glinigol.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Dr Matt Morgan, ymgynghorydd ICU yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Uwch-gymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae gan Dr Morgan brofiad ymarferol o'r frwydr yn erbyn COVID-19 yng Nghymru, a bydd yn rhannu detholiadau o'i brofiadau dros y 6 mis diwethaf yn ogystal ag edrych ar y cysylltiadau rhwng sepsis a COVID-19.

Yn ymuno â Dr Morgan mae aelodau o dîm Prosiect Sepsis, Dr Fergus Hamilton, microbiolegydd clinigol sy'n gweithio ar linell flaen diagnosteg heintiau ac, mewn partneriaeth gyda'r Athro Peter Ghazal, sy'n ceisio ymchwilio geneteg ymateb andwyol i haint, ynghyd â Dr Luke Cynlais Davies, gwyddonydd ymchwil Cymreig o fri rhyngwladol sy'n arbenigo yn swyddogaeth celloedd imiwnedd llinell flaen mewn sepsis.

Yn olaf bydd y weminar yn cynnwys profiad personol o COVID-19 gan glaf 37 mlwydd oed o Gaerdydd, Davide, sy'n dad i un plentyn ac a wellodd ar ôl achos difrifol iawn o COVID-19 yn gynt eleni ar ôl derbyn triniaeth i achub ei fywyd dan ofal Dr Morgan.
Yn dilyn y drafodaeth fideo rhwng y panelwyr, ceir cyfle i holi cwestiynau am y cyswllt rhwng sepsis a COVID-19, a thrafod pa gyfleoedd sydd ar gael ar gyfer ymchwil a thriniaethau'n seiliedig ar wybodaeth newydd am y ddau gyflwr.

Bydd y weminar ar agor i ymchwilwyr a chlinigwyr sydd â diddordeb yn ogystal ag i aelodau o'r cyhoedd a'r wasg, i nodi Diwrnod Sepsis y Byd a gynhelir yn fyd-eang yn swyddogol ar 13 Medi.

Cofrestrwch eich diddordeb

Gwybodaeth am Brosiect Sepsis

Hanfod Prosiect Sepsis yw bod meddygon a gwyddonwyr mewn amryw feysydd yn cydweithio mewn ymateb i'r ffaith bod gwir angen dyfeisio ffordd fanwl gywir o adnabod a chanfod yr haint y tu ôl i’r sepsis. Mae'n defnyddio dulliau dadansoddi'r genom, y proteom a metabolaeth â chymorth cyfrifiadurol. Ar sail hyn, gellir dadgodio ymateb y system imiwnedd er mwyn canfod heintiau yn gyflymach ac adnabod triniaethau arloesol.

Yn ôl yr Athro Peter Ghazal, a oedd yn siarad yr wythnos ddiwethaf am gamau nesaf Prosiect Sepsis:

“Mae’r ymchwil a’r gwaith yr ydym wedi’u cynnal dros yr un ar bymtheg mlynedd ddiwethaf ac sydd wedi’u gwneud drwy astudio cannoedd o gleifion, wedi profi’r cysyniad o ragfynegi’n gywir a fydd haint yn arwain at sepsis bacteriol drwy ddefnyddio diferyn o waed o’r bys yn unig. Beth sydd angen i ni ei wneud nawr yw symud y gwaith hwn ymlaen at ddilysiad clinigol a chanfod a allwn ragnodi sepsis feirysol drwy ddefnyddio ein dull fel prawf diagnostig a phennu a fyddai’n gwella deilliannau cleifion yn syfrdanol."

"Ein hagwedd yw gweithio gyda'r gymuned ehangach a hwyluso unrhyw brofion posibl, a allai gael eu cyflwyno i leoliad clinigol, cyn gynted â phosibl. Rydym yn gyffrous iawn ac o'r farn y gallai hyn gael ei gyflawni o fewn pum mlynedd."

Yr Athro Peter Ghazal Sêr Cymru Chair in Systems Medicine, Systems Immunity Research Institute

"Mae'r prawf presennol yn cymryd diwrnodau ac yn methu mewn 85% o achosion.  Ar hyn o bryd nid oes unrhyw brofion am sepsis feirysol. Yr hyn rydym yn ei gynnig yw prawf a allai gymryd munudau - felly, gallai ychwanegu adnodd pwysig iawn at arfogaeth meddygon i'w galluogi i ganfod sepsis, gwahaniaethu rhwng sepsis feirysol a bacteriol, er mwyn gwneud y penderfyniadau iawn a rhoi’r feddyginiaeth iawn i gleifion.

Mae Prosiect Sepsis yn gymuned ar waith. Mae'n cynnwys nifer o ddisgyblaethau o fewn meddygaeth, gwyddoniaeth a'r gymuned gyfan. Mae ein grŵp ymgynghorol lleyg yn bwysig iawn i'n gwaith; maent wedi cymryd cymaint o ran â phosibl ac wedi bod yn llywio’r ffordd y byddwn ni'n symud yn y dyfodol."

Rhannu’r stori hon