Ewch i’r prif gynnwys

Paratoi ar gyfer diwrnod canlyniadau a delio â phryder - ymunwch â'n gweminar am ddim

10 Awst 2020

Webinar: results day and coping with anxiety

Gyda diwrnod canlyniadau Safon Uwch a TGAU yn agosáu'n gyflym, mae'r Prosiect Porth Cymunedol a'r Tîm Allgymorth ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymuno ar weminar fyw i drafod diwrnod canlyniadau, lles ac ymdopi â phryder.

Bydd staff a myfyrwyr cyfredol yn ymuno â Scott McKenzie, Pennaeth Allgymorth y Brifysgol, i ateb rhai o'r cwestiynau cyffredin yr adeg hon o'r flwyddyn, gan gynnwys:

  • Sut i ymdopi â phryder ynghylch diwrnod y canlyniadau
  • Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn gwneud yn dda yn fy nghanlyniadau?
  • Beth yw Clirio?
  • Beth all rhieni / gwarcheidwaid ei wneud i gefnogi pobl ifanc sy'n dyheu am fynd i'r brifysgol?

Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau ar y nodwedd sgwrsio / Holi ac Ateb. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am fformat y sesiwn a siaradwyr yma.

Dyddiad: Dydd Mercher 12fed Awst

Amser: 1pm - 2pm

Lleoliad: trwy Zoom

Sylwch: rhaid i chi gofrestru i ymuno â'r sesiwn hon gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: https://cardiff.zoom.us/webinar/register/WN_BmUOyISGScGtojecZt2KEw

Dywedodd Ali Abdi, Rheolwr Partneriaethau Porth Cymunedol:

"Rydyn ni'n ymwybodol iawn y gallai'r myfyrwyr hynny sy'n aros am ganlyniadau arholiadau fod yn hynod bryderus am yr hyn a allai fod yn y dyfodol iddyn nhw. Ym Mhrifysgol Caerdydd rydyn ni am ddarparu rhywfaint o gefnogaeth i'r bobl hyn a'u rhieni i helpu i arwain nhw trwy'r cyfnod anodd hwn ac yn darparu'r mecanweithiau a'r wybodaeth y gallai fod eu hangen arnynt i'w helpu i ymdopi. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu pobl i'r sesiwn a gobeithio bod y rhai sy'n mynychu yn ei chael hi'n ddefnyddiol ac yn galonogol."

Os oes unrhyw gwestiynau neu broblemau yn ymuno â'r sesiwn, cysylltwch â ni: communitygateway@cardiff.ac.uk

Rhannu’r stori hon