Ewch i’r prif gynnwys

Ydy seryddwr o Gaerdydd wedi darganfod y seren niwtron ieuaf erioed?

30 Gorffennaf 2020

Artist's image of a supernova

Darganfyddiad seryddwyr ynghylch deall beth ddigwyddodd i Supernova 1987A 33 blynedd yn ôl, gan gryfhau’r ddadl y bydd seren niwtron yn ymguddio yn ddwfn y tu mewn i olion ffrwydrad. Nid dim ond unrhyw seren niwtron, ond yr un ieuaf a nodwyd erioed.

Daeth Supernova 1987A o ffrwydrad enfawr seren yn ffurfafen y nos.

Credir bod seren niwtron wedi ymffurfio y tu mewn i’r seren wreiddiol ychydig cyn iddi ffrwydro am fod darnau a elwir yn niwtrinos wedi’u gweld ar y Ddaear tua adeg y ffrwydrad.

Ers hynny, mae gwyddonwyr wedi bod yn chwilio am seren niwtron fechan a allasai fod ar ôl yn sgîl y ffrwydro.

Gan nad oedd tystiolaeth, roedd rhai wedi dyfalu y gallai’r seren niwtron fod wedi diflannu mewn twll du yn hytrach. Mae telesgop ALMA wedi dangos tystiolaeth gredadwy bellach, fodd bynnag.

Mae telesgop ALMA (Atacama Large Millimeter/Submillimetre Array) yn un o arsyllfeydd seryddol gorau’r byd. Mae yng ngogledd Tsile o dan ofal Arsyllfa Ddeheuol Ewrop, Sefydliad Cenedlaethol Gwyddoniaeth UDA a nifer o bartneriaid rhyngwladol.

Mae’n newyddion cyffrous bod y telesgop yn gallu gweld siâp gynnes ddi-ffurf, gan roi’r arwydd cyntaf o’r seren niwtron mae llawer wedi chwilio amdani.

“Roedd yn syndod gweld y siâp gynnes honno, wedi’i ffurfio gan gwmwl llwch trwchus yn olion yr uwchnofa,” meddai’r Dr Mikako Matsuura, Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, a gyflwynodd yr adroddiad cyntaf ynghyd ag aelod o’r tîm ymchwil.

“Rhaid bod yn y cwmwl hwnnw rywbeth sydd wedi cynhesu’r llwch a pheri iddo ddisgleirio. Dyna pam yr awgrymon ni fod seren niwtron y tu mewn i’r cwmwl llwch.”

Mae Dany Page yn astroffisegwr ym Mhrifysgol Annibynnol Genedlaethol Mecsico. “Roeddwn i hanner ffordd trwy astudio ar gyfer fy noethuriaeth pan ddigwyddodd yr uwchnofa,” meddai. “Roedd yn un o ddigwyddiadau mwyaf fy einioes gan achosi imi newid hynt fy ngyrfa i geisio dod o hyd i esboniad. Roedd yn debyg i chwilio am y Greal Sanctaidd!”

Mae astudiaeth Matsuura a’r tîm, sydd wedi’i chyhoeddi yn yr Astrophysical Journal, yn dangos bod y seren niwtron yno a’i bod wedi’i symud i’w lle presennol gan rym anferth ffrwydrad yr uwchnofa, (ddengwaith yn gyflymach na roced yn ôl rhai!). Mae’n ddiddorol bod y tîm wedi gweld y seren yn union lle roedd gwyddonwyr wedi darogan y byddai.

Dyma’r seren niwtron ieuaf a welwyd erioed yn yr ofod gyfagos - dim ond 33 oed, ac mae hynny’n eithaf rhyfeddol o ystyried bod yr un ieuaf nesaf yn 330 oed!

Mae’r darganfyddiad hwn yn adeiladu ar hanes hir o astudio Supernova 1987A, lle mae telesgop ALMA wedi datgelu mwy a mwy yn raddol o ganlyniad i fireinio ei alluoedd dros y blynyddoedd. Mae sawl telesgop arall wedi astudio Supernova 1987A heb allu datgelu cymaint.

Wedi dweud hynny, dim ond trwy ddarlun eglur o’r seren y cawn ni dystiolaeth bendant ei bod yno. Gan fod digon o lwch o hyd yn sgîl ffrwydrad yr uwchnofa, fodd bynnag, fydd dim modd ei gweld yn eglurach am ddegawdau, yn ôl pob tebyg. Am y tro, gallwn ni ddweud yn falch ein bod wedi cyflwyno’r dystiolaeth orau hyd yma.

Rhannu’r stori hon