Ewch i’r prif gynnwys

Pennaeth Newydd Ysgol Deintyddiaeth

29 Gorffennaf 2020

Head of School of Dentistry

Mae’r Athro Nicola Innes wedi’i phenodi’n bennaeth newydd Ysgol Deintyddiaeth lle y bydd yn goruchwylio holl weithgareddau’r ysgol wrth geisio adeiladu ar ei hanes rhagorol ym meysydd ymchwil, addysgu ac ymgysylltu.

Bydd yr Athro Innes yn cymryd yr awenau oddi wrth penaethiaid dros dro’r ysgol, yr Athro Barbara Chadwick, a’r Athro Ivor Chestnutt, ar 1af Awst 2020.

Ar hyn o bryd, mae’r Athro Innes yn swydd Athro Deintyddiaeth i Blant ym Mhrifysgol Dundee. Ymgymhwysodd yr Athro Innes  yn Nyrs Gyffredinol Gofrestredig ym maes Llawdriniaeth Niwroleg yn wreiddiol, ond symudodd i Ddeintyddiaeth wedyn a bu’n ddeintydd teulu am saith mlynedd lle y dechreuodd astudio ar gyfer PhD.

Daeth yr Athro Innes yn ddarlithydd amser llawn yn Dundee yn 2005, yn Arbenigwr Deintyddiaeth i Blant yn 2011, gan arwain Iechyd y Dannedd a’r Genau i Blant, a threulio pedair blynedd yn swydd Deon Cyswllt dros Ddysgu ac Addysgu. Ei phrif ddiddordeb o ran ymchwil yw dod o hyd i ffyrdd gwell o atal dannedd rhag pydru (yn arbennig treialon clinigol), arferion wedi’u seilio ar dystiolaeth ond, yn bennaf, gofalu’n well am ddannedd plant.

Wrth dderbyn swydd pennaeth ysgol ym Mhrifysgol Caerdydd, meddai’r Athro Innes “Rwy’n edrych ymlaen at ddod i adnabod pawb yn yr ysgol ac ar draws y Brifysgol. Pobl yw adnodd pwysicaf ysgolion deintyddiaeth. Mae pawb cyn bwysiced â’i gilydd ynglŷn â gwneud i bopeth weithio - boent academyddion, gweithwyr y GIG, gwasanaethau proffesiynol, myfyrwyr neu aelodau o’n cymuned ehangach gan gynnwys cleifion. Rwy’n edrych ymlaen at grwydro ucheldiroedd Eryri a Bannau Brycheiniog, hefyd.

Y gamp fwyaf i mi ar hyn o bryd yw dod i ddeall yr ysgol ac adnabod pawb (staff a myfyrwyr) am nad oes modd cerdded yn rhydd trwy glinigau ac ar hyd coridorau na mynd i mewn i’r labordai i weld yr hyn sy’n digwydd yno a chael sgwrs. Un peth mae COFID-19 wedi’i gynnig inni, fodd bynnag, yw’r cyfle i ddechrau gweithio ychydig yn ‘wahanol’ ac rwy’n siŵr na fydd y gofyn i gysylltu â rhai o’m tîm o hirbell ddechrau fy nghyfnod yn ddeon yn ein rhwystro rhag cyflawni’r hyn sy’n angenrheidiol yn yr ysgol hon.”

students

Meddai’r Athro Gary Baxter, Rhag Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd “Mae’n dda gyda fi groesawu Nicola yn Bennaeth Ysgol Deintyddiaeth. Mae hi’n adnabyddus eisoes ymhlith llawer o staff a myfyrwyr yr ysgol am ei henw da yn y byd academaidd a’i medrau arwain yn y proffesiwn. Daw penodiad Nicola yng Nghaerdydd â delfryd, arbenigedd a phrofiad newydd a fydd yn atgyfnerthu proffil cyfredol yr ysgol ac yn ei helpu i ragori eto fyth.

Hoffwn i ddiolch i’r Athro Barbara Chadwick a’r Athro Ivor Chestnutt a arweiniodd yr ysgol ar y cyd dros dro ar ôl i Alastair Sloan fynd i Awstralia fis Ionawr. Bu rhaid iddyn nhw gymryd yr awenau yn ystod cyfnod anodd iawn. Mae’u hagwedd ddigynnwrf, ymroddiad hollol anhunanol a gwybodaeth ddwfn am yr ysgol wedi tawelu meddyliau’r staff a’r myfyrwyr. Mae Barbara ac Ivor wedi cydweithio’n agos â Nicola yn ystod y cyfnod pontio i ofalu y bydd yr ymsefydlu a’r trosglwyddo cyfrifoldebau yn esmwyth.”

Rhannu’r stori hon