Ewch i’r prif gynnwys

Pharmabees yn ymuno â Chyngor Caerdydd

17 Gorffennaf 2020

Mae prosiect llwyddiannus Pharmabees yn cyfuno ymchwil arloesol ac ymgysylltu â'r cyhoedd drwy ystyried sut y gallai rhai o blanhigion naturiol Cymru arwain at ddatblygu cyffuriau i drin cyflyrau meddygol difrifol sydd bellach ag ymwrthedd i wrthfiotigau traddodiadol - a elwir yn 'arch-fygiau'.

Mae adnoddau addysgol ar gael i ysgolion cynradd ledled Caerdydd mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd. Mae hyn yn rhan o ymdrech Prifysgol Caerdydd i gefnogi’r cwricwlwm newydd, peillio meddyliau ifanc a chreu’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr prifysgol.

Datblygir adnoddau ar y wefan hon trwy brosiectau arloesol sy'n cynnwys tîm e-ddysgu Cyngor Caerdydd, athrawon o ysgolion Caerdydd, busnesau lleol a Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe. Mae'r holl adnoddau yn cyd-fynd â'r cwricwlwm gwyddoniaeth a chyfrifiadureg gyfredol, yn ogystal â'r Meysydd Dysgu a Phrofiad (AoLE) Gwyddoniaeth a Thechnoleg sydd i ddod yn y Cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru. Maent hefyd yn cysylltu â'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.  Nod cyffredinol yr adnoddau yw dangos perthynas glir rhwng elfennau o'r cwricwlwm a phrofiadau yn y byd go iawn a chyfleoedd gwaith.

Ar y wefan bydd defnyddwyr yn dod o hyd i adnoddau addysgol amrywiol gan Pharmabees gan gynnwys gweithgareddau bioamrywiaeth, arbrofion bacteria, ac adnoddau ar-lein eraill i gefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Mae Pharmabees wedi sefydlu partneriaeth gydag Addewid Caerdydd i rannu ein hadnoddau.

Rhannu’r stori hon