Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant i fyfyriwr lleoliad yng ngwobrau ITP VolkerFitzpatrick y Flwyddyn

23 Gorffennaf 2020

Mae Ruth Wallace, myfyriwr peirianneg yn y drydedd flwyddyn wedi derbyn gwobr gan gwmni peirianneg ac adeiladu, VolkerFitzpatrick, am ei pherfformiad rhagorol yn ystod blwyddyn ar leoliad.

Mae Ruth, sy’n gweithio fel peiriannydd ar Leoliad Hyfforddi Diwydiannol (ITP) ar brosiect ‘Feltham Depot’ y busnes, wedi’i chyhoeddi’n enillydd Gwobr ITP Mark Scarth y Flwyddyn eleni. Mae’r wobr yn cydnabod gwaith caled unigolion talentog sydd wedi treulio blwyddyn ar leoliad gyda’r sefydliad.

Mae Ruth, sydd ar leoliad fel rhan o’r radd Peirianneg Sifil (Meng), yw’r peiriannydd cyntaf, a’r fenyw gyntaf, i ennill y wobr.

Dywedodd Phil Wood, Rheolwr y prosiect, “Mae Ruth yn ddiwyd, yn weithgar ac yn gydwybodol ynghylch popeth y mae’n ei wneud. Yn ogystal â bod yn hollol ddibynadwy, mae hi wedi rhagori ac wedi dangos ei bod yn aelod gwerthfawr o’r tîm peirianneg sydd gyda ni ar y safle. Rydw i’n ei chymeradwyo am fod mor ymaddasol yn ystod y pandemig.”

Cafodd y wobr ei chyflwyno gan VolkerFitzpatrick er cof cydweithiwr, Mark Scarth, a fu farw, yn anffodus, yn 2018.

Treuliodd Mark lawer o’i amser yn hyfforddi, ac yn bwysicaf oll, yn cefnogi myfyrwyr ITP a graddedigion. Ei waddol yw bod y rhaglen i raddedigion y gwnaeth e weithio mor galed i’w sefydlu o fewn y busnes yn un arweiniol yn y diwydiant, ac mewn cydnabyddiaeth o’i waith, mae Gwobr flynyddol Mark Scarth ITP y Flwyddyn yn cydnabod datblygiad a llwyddiannau myfyriwr ITP.

Llongyfarchiadau i Ruth oddi wrth bawb yn yr Ysgol Peirianneg am ei holl waith caled.

Rhannu’r stori hon