Ewch i’r prif gynnwys

The Science of Demons

22 Mehefin 2020

Hanesydd o Gaerdydd yn cyhoeddi cyflwyniad i ddemonoleg fodern gynnar

Daw'r gyfrol ddiweddaraf gan hanesydd o Gaerdydd ag un deg naw o arbenigwyr at ei gilydd o'r Ariannin i Israel, ac o Awstralia i'r Unol Daleithiau.

Mae'r Uwch-ddarlithydd mewn Hanes Modern Cynnar Dr Jan Machielsen yn esbonio bod The Science of Demons: Early Modern Authors Facing Witchcraft and the Devil yn deyrnged i ddau waith sylweddol yn y maes:

"Cefais i'r syniad o ddeutu 2016, pan sylweddolais fod dau ben-blwydd pwysig yn agosáu ond nad oedd neb wedi gwneud dim i'w nodi. Yn 2017, byddai'n ddeugain mlynedd ers cyhoeddi Damned Art of Witchcraft, cyfrol bwysig o benodau ar awduron dewiniaeth unigol, ac ugain mlynedd ers cyhoeddi cyfrol arloesol Stuart Clark Thinking with Demons, a brofodd unwaith ac am byth y gallai ac y dylai haneswyr deallusol, diwylliannol a chrefyddol astudio demonoleg fodern gynnar."

Yn y bôn, mae The Science of Demons yn defnyddio patrwm Damned Art i archwilio i ble mae astudiaethau demonoleg wedi arwain er 1997.

Ychwanega Dr Machielsen: Roedd ‘Thinking with Demons yn tour de force 800 tudalen oedd yn dangos bod mwy nag un math o ddemonoleg, a bod gan awduron modern cynnar ddiddordeb yn y maes am bob math o resymau gwleidyddol, crefyddol, gwyddonol ac eraill.  Rydym ni'n gobeithio bod The Science of Demons yn dangos yr hyblygrwydd hwnnw ymhellach, drwy edrych ar amrywiol awduron o wahanol genfdiroedd oedd yn byw mewn cyfnodau a lleoliadau gwahanol. Gall y penodau sefyll ar eu pen eu hunain fel cymdeithion i destunau demonolegol unigol fel y drwgenwog Malleus Maleficarum ond rwy'n gobeithio y bydd y gyfrol gyfan yn gweithio fel cyflwyniad i astudio'r maes.'

Mae'r llyfr eisoes wedi derbyn canmoliaeth sylweddol. Canmolodd Valerie Kivelson (Prifysgol Michigan) y gyfrol fel 'hybrid prin: cyfraniad ysgolheigaidd sylweddol sy'n hefyd yn hwyliog i'w ddarllen' a disgrifiodd Lyndal Roper (Rhydychen) y gyfrol yn 'gyflawniad hynod’.

Mae Machielsen yn llawn brwdfrydedd am ddiwyg y gyfrol: 'Mae'r tîm cyhoeddi yn Routledge wedi gwneud gwaith rhagorol. Does ond gobeithio y bydd cynnwys y llyfr yn deilwng o'r ganmoliaeth a'r gwerthoedd cynhyrchu uchel.'

Ag yntau'n Uwch-ddarlithydd mewn Hanes Modern Cynnar, mae Dr Jan Machielsen yn gweithio ym meysydd hanes diwylliannol, crefyddol a deallusol modern cynnar. Rhestrwyd ei gyfrol Martin Delrio: Demonology and Scholarship in the Counter-Reformation yn un o Lyfrau 2015 History Today.

Cyhoeddir The Science of Demons: Early Modern Authors Facing Witchcraft and the Devil gan Routledge.

Rhannu’r stori hon