Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabyddiaeth am Wobr Arian Athena SWAN

1 Mehefin 2020

Sir Martin Evans Building
Sir Martin Evans Building

Mae Ysgol y Biowyddorau wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy gadw ei Gwobr Arian Athena SWAN.

Sefydlwyd Siarter Athena SWAN i wobrwyo ymdrechion sy'n mynd i'r afael â chydraddoldeb i bob aelod o Brifysgol - gan hyrwyddo diwylliant o amrywiaeth a chynhwysiant i'r holl staff a myfyrwyr.

Yn flaenorol, dyfarnwyd y Wobr Arian i Ysgol y Biowyddorau am ei hymrwymiadau i wella diwylliant y gweithle, a bydd yr Ysgol yn cadw ei statws arian Athena SWAN tan 2025.

Dywedodd yr Athro Daniela Riccardi, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol a Chadeirydd y Pwyllgor Staff ac Amgylchedd Gwaith yn Ysgol y Biowyddorau: “Rydym yn falch iawn o rannu newyddion da yn ystod y cyfnod anodd hwn, gyda'n Hysgol yn cael ei chydnabod am ein hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

“Mae’r wobr nodedig hon yn seiliedig ar dystiolaeth bendant o arferion a gweithgareddau sydd wedi’u hanelu i sicrhau cyfle cyfartal i bawb, o fyfyrwyr israddedig i staff y gwasanaethau proffesiynol ac uwch-academyddion.  

Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd tuag at gyflawni'r wobr hon. Byddwn yn parhau â'n hymdrechion i sicrhau diwylliant rhagorol yn ein Hysgol ar gyfer ein staff a'n myfyrwyr."

Rhannu’r stori hon