Ewch i’r prif gynnwys

Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n enwi academyddion y Gyfraith yn Gymrodyr

26 Mai 2020

Mae dau athro Cyfraith o Gaerdydd wedi’u hethol yn Gymrodyr i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, uchel ei bri.

Mae’r Athro Norman Doe a’r Athro Ambreena Manji’n addysgu am y gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac eleni, mae eu cyfraniad at eu meysydd perthnasol wedi’i gydnabod gan academi gwyddoniaeth a llythyron genedlaethol gyntaf Cymru.

Cafodd y Gymdeithas ei sefydlu yn 2010 i hyrwyddo ymwybyddiaeth o sut mae'r gwyddorau, y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol o fudd i gymdeithas. Mae cael eich ethol i Gymrodoriaeth yn fodd o gael cydnabyddiaeth gyhoeddus am ragoriaeth academaidd, ac yn broses fanwl a thrwyadl lle caiff enwebiadau eu cynnig a'u cadarnhau gan Gymrodorion presennol y Gymdeithas. Yna, mae pwyllgor craffu perthnasol yn ystyried pob ymgeisydd. Ar ôl cael eu hethol, mae Cymrodyr yn cynorthwyo gwaith y Gymdeithas yn hyn o beth drwy gymryd rhan yn ei hamryw bwyllgorau a gweithgorau, a thrwy gynrychioli'r Gymdeithas yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae’r Athro Doe wedi addysgu yn yr Ysgol am 35 o flynyddoedd ac yntau yw Cyfarwyddwr Canolfan y Gyfraith a Chrefydd. Mae wedi addysgu am gyfraith gyhoeddus a’r gyfraith a chrefydd. Chwaraeodd rôl greiddiol wrth sefydlu rhaglen LLM yr Ysgol mewn Cyfraith Eglwysig, a sefydlwyd ym 1991.

Mae Ambreena Manji wedi bod yn Athro Cyfraith Tir a Datblygiad yn yr Ysgol ers 2014. Daeth hi i Gaerdydd o Nairobi lle roedd hi’n gyfarwyddwr dros un o sefydliadau ymchwil yr Academi Brydeinig, y Sefydliad Prydeinig yn Nwyrain Affrica. Mae Ambreena’n llywydd dros Gymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU. Gwnaeth hi gyd-sefydlu Canolfan y Gyfraith a Chyfiawnder Byd-eang LAWPL sy’n cefnogi rhaglen ymchwil fywiog, gan gynnwys carfan o astudiaethau doethurol rhyngwladol.

O ran ei etholiad i’r Gymdeithas, dywedodd yr Athro Doe, “Mae’r Gymrodoriaeth yn anrhydedd go iawn ac yn deyrnged i waith caled pawb a gymerodd ran yng Nghaerdydd dros y 30 mlynedd ddiwethaf yn y ddarpariaeth o addysg ôl-raddedig mewn cyfraith eglwysig, sefydlu Canolfan y Gyfraith a Chrefydd a gweithio gyda hi, a’r ymdrechion parhaus i ddefnyddio traddodiadau cyfreithiol ar gyfer mwy o gydlyniad crefyddol yn y byd ehangach.”

Ychwanegodd yr Athro Manji, “Anrhydedd fawr yw cael fy ethol yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru a bod yn rhan o Gymru ryngwladol, amlieithog, ar lefel broffesiynol a phersonol.”

Rhannu’r stori hon