Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu llwyddiant prosiect Sea4All

26 Mai 2020

Wrth iddo ddirwyn i ben mae Sea4All, prosiect dwy flynedd i hybu ymwybyddiaeth ynghylch effaith llygredd morol ymhlith pobl ifanc, yn dathlu ei lwyddiant.

Mae llygredd morol, a achosir yn bennaf gan weithgareddau dynol er enghraifft llygredd plastig a thrychinebau megis gollyngiadau olew, yn fygythiad i gefnforoedd y byd. Rhan allweddol o’r ateb i’r broblem hon yw ymwybyddiaeth amgylcheddol gref o effaith a chost llygredd morol.

Mae addysg, yn enwedig wedi ei anelu at blant, yn allweddol i helpu lleihau effaith dynol ar ein cefnforoedd. Gall codi ymwybyddiaeth o fygythiad llygredd olew a phlastig i iechyd y môr ysgogi newidiadau i agweddau ac ymddygiad pobl ifanc, gan eu hysbrydoli i gymryd camau cadarnhaol tuag at oresgyn yr heriau hyn.

Trwy gydol y prosiect Sea4All mae Dr Tiago Alves o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd, a thîm sy’n dod o sefydliadau yng Ngroeg, Cyprus a Romania, wedi codi ymwybyddiaeth o lygredd morol ymysg plant ysgol a sefydliadau addysgol ar draws Ewrop a’r DU. Mae’r prosiect yn rhan o gwricwlwm addysg arbennig i wella ymwybyddiaeth amgylcheddol, yn enwedig yng nghyd-destun problemau llygredd morol.

Gan ddefnyddio technolegau arloesol, megis offer dysgu aml-lefel yn seiliedig ar gemau a phlatfformau e-ddysgu, mae’r tîm o wyddonwyr wedi datblygu porth addysgol ar gyfer disgyblion ysgol 10-14 mlwydd oed, sy’n cynnwys gemau a deunyddiau ystafell ddosbarth.

Yn ôl Dr Tiago Alves, un o elfennau mwyaf llwyddiannus y prosiect oedd “cwblhau gêm electronig i’w defnyddio mewn ystafelloedd dosbarth ar draws y byd.” Nododd hefyd fod y prosiect hwn yn cael effaith byd-eang, gyda “sawl sesiwn gydag athrawon ac addysgwyr yn Romania, Cyprus a Groeg,” yn ogystal â nodi bod “Cyprus a Groeg yn newid eu cwricwla ysgol uwchradd a blynyddoedd olaf ysgol gynradd i gynnwys agweddau ar sut i liniaru llygredd morol yn ei gyfanrwydd.”

Er bod Sea4all bellach wedi dod i ben, dywed Dr. Alves bod cryn dipyn o waith i’w wneud eto, a bydd yn parhau i gael effaith o fewn y gymuned addysgol a gwyddonol. “Mae gennym hefyd bapur yn Scientific Reports a fydd yn cyflwyno prif ganlyniadau’r prosiect i athrawon a gwyddonwyr, e.e. o ble mae llygredd morol yn dod mewn gwirionedd...gan nad yw’n deillio’n llwyr o ardaloedd morol.”

Cafodd y prosiect dwy flynedd hwn ei ariannu ar y cyd gan Raglen Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd a’i gydlynu yn FORTH-HELLAS, Creta, gan Dr Vassilis Kontogiannis.

Rhannu’r stori hon