Ewch i’r prif gynnwys

Diweddariad Therapi Proton newydd i'r cyfleusterau Radiotherapi

13 Mai 2020

Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd yw'r sefydliad cyntaf yn y DU i ychwanegu technoleg Therapi Proton i'w chyfleusterau radiotherapi trawiadol gyda chefnogaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Mae'r Ysgol eisoes yn gartref i gyfleuster unigryw sy'n cynnig efelychiad 3D o'r amgylchedd radiotherapi.

Mae'r cyfleuster yn galluogi myfyrwyr i gael profiad uniongyrchol o ddefnyddio peiriannau triniaeth radiotherapi cyflymu llinellol mewn amgylchedd diogel. Maent yn cynnwys y dechnoleg ganlynol:

  • Eclipse: Er mwyn lleihau sgil-effeithiau ymbelydredd, mae'n hanfodol cynllunio'n ddiogel lle mae ffotonau ac electronau egni uchel yn mynd i fynd i mewn ac allan o'r corff. Mae Eclipse yn galluogi myfyrwyr i greu cynlluniau trin radiotherapi.
  • Efelychydd rhithiol: Mae efelychydd rhithiol Prosoma yn cyfleu triniaeth radiotherapi ac yn galluogi myfyrwyr i ddychmygu anatomi'r claf mewn perthynas â phaladr ymbelydredd rhithiol.
  • Triniaeth Radiotherapi Rhithiol (VERT): Galluogi myfyrwyr i ymarfer a dychmygu'r paladr ymbelydredd wrth iddo basio drwy'r corff.

Bellach, mae'r Ysgol wedi ychwanegu Therapi Proton i ddiweddaru'r system i roi profiad uniongyrchol i fyfyrwyr o therapi protonau, mewn amgylchedd diogel heb unrhyw straen.

Mae'r diweddariad Proton yn rhan o adnewyddiad llwyr o'r caledwedd gan sicrhau y bydd y system ar gael i addysgu myfyrwyr am flynyddoedd i ddod.

Dywedodd Keren Williamson, Uwch-ddarlithydd Radiotherapi 'Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael cefnogaeth gan AaGIC i ariannu'r technolegau newydd hyn, yn enwedig y system VERT protonau newydd. Yn ogystal â chefnogi eu haddysg academaidd, bydd y systemau hyn yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu sgiliau allweddol fydd yn gwell eu cyflogadwyedd ac yn sicrhau eu bod yn hollol barod ar gyfer datblygiadau presennol ac i'r dyfodol o ran arferion radiotherapi'.

Rhannu’r stori hon