Ewch i’r prif gynnwys

Mae myfyriwr cemeg yn sicrhau interniaeth drawiadol

6 Mai 2020

Caprice Smith

Mae Caprice Smith, myfyriwr BSc yn ei ail flwyddyn wedi llwyddo i gael lle ar Raglen Lleoli Diwydiannol Trysorlys Corfforaethol Morgan Stanley 2020.

Ym mis Mehefin 2020, bydd Caprice yn dechrau ar interniaeth â thâl blwyddyn gyda'r banc buddsoddi amlwladol, Morgan Stanley.

Cafodd Caprice ei sgowtio ar gyfer yr interniaeth hynod yn y digwyddiad TG 'nid dynion yn unig', a gynhaliwyd gan TargetJobs. Cymerodd ran mewn her tîm i greu ap a'i gyflwyno i fuddsoddwr posibl. Partner tîm Caprice oedd Morgan Stanley, a gwnaeth ei chyfraniadau, ynghyd â'r ffordd yr oedd hi'n rheoli'r tîm, argraff dda iawn ar eu cynrychiolydd.

Ar ôl y gweithgaredd hwn roedd sesiwn rwydweithio, a gwnaeth Caprice argraff gyntaf dda iawn. Ar ddiwedd y digwyddiad, cafodd un aelod o bob tîm ei enwebu gan eu cynrychiolydd cwmni am wobr yn seiliedig ar eu perfformiad yn yr her, ac enillodd Caprice y wobr.

Dechreuodd Caprice ei chais ar gyfer rhaglen interniaeth Morgan Stanley y diwrnod wedyn, ac ar ôl proses ymgeisio ddwys, sicrhaodd ei lle.

Bydd ei lleoliad gwaith yn cynnwys cymysgedd o reoli risg ariannol, rheoli arian parod a hylifedd, a chyllid a rheoli dyledion. Bydd Caprice yn ymgymryd â phrofion ariannol amrywiol, yn dadansoddi modelau ac yn creu adroddiadau wythnosol-misol i'w cyflwyno i dimau byd-eang ac uwch-reolwyr.

Llongyfarchiadau mawr i Caprice gan bob aelod staff yn yr Ysgol Cemeg.

Rhannu’r stori hon