Cyfleu argyfwng
21 Ebrill 2020
Mae gan y cyfryngau rôl bwysig yn ystod argyfwng, ond daw’r rôl hon yn eithriadol o bwysig yn ystod pandemig byd-eang – y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.
Mae academyddion o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) Prifysgol Caerdydd wedi ymateb i argyfwng Covid-19 drwy roi cyngor i newyddiadurwyr yng Nghymru o ran sut i drafod y feirws, gan werthuso perfformiad darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn feirniadol ac archwilio effaith y cyfyngiadau symud ar y diwydiannau creadigol, ymysg mentrau eraill.
Ar gais Conffederasiwn GIG Cymru, lluniodd yr Athro Karin Wahl-Jorgensen ddogfen yn rhoi cyngor i newyddiadurwyr a oedd yn trafod y feirws, gan fanteisio ar fewnbwn arbenigwyr annibynnol ledled y meysydd newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a’r byd academaidd, a llawer o academyddion o’r Ysgol.
Mae'r canllawiau wedi'u hanelu'n bennaf at newyddiadurwyr sydd heb brofiad o weithio ar bynciau iechyd neu'r rhai sydd wedi’u symud o feysydd eraill. Mae'n canolbwyntio ar sut i ymdrin â'r pandemig yn ddiogel ac yn amlygu pwysigrwydd cywiro gwybodaeth anghywir.
"Mae'r galw digynsail am wybodaeth yn dangos pwysigrwydd cyfryngau newyddion cadarn mewn cymdeithas ddemocrataidd.” Meddai'r Athro Wahl-Jorgensen. "Rydym yn gobeithio bydd y canllawiau’n cynorthwyo'r cyfryngau newyddion ledled Cymru yn eu hymdrechion i'n helpu i wneud synnwyr o gyfnod hynod bryderus i ni gyd."
Mae’r Athro Stephen Cushion wedi gwerthuso strategaeth gyfathrebu’r Llywodraeth hyd yn hyn yn feirniadol, ac wedi ystyried rôl darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn ystod yr argyfwng mewn cyfres o erthyglau a gyhoeddwyd yn The Conversation.
Creative Cardiff, a network which connects people working in all creative organisations, responded to news of the UK Government’s COVID-19 Self-Employment Income Support Scheme by conducting an online survey to ask their members how the scheme would help.
Ymatebodd Caerdydd Creadigol, sef rhwydwaith sy’n cysylltu pobl sy’n gweithio ym mhob sefydliad creadigol, i’r newyddion am Gynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth COVID-19 Llywodraeth y DU drwy gynnal arolwg ar-lein i ofyn i’w aelodau sut byddai’r cynllun yn helpu.
Dros gyfnod o dri diwrnod, cafwyd ymateb i’r arolwg gan 237 o weithwyr llawrydd o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Dywedodd yr adroddiad dilynol, a ysgrifennwyd gan yr Athro Justin Lewis: “Bydd prinder gweithwyr llawrydd yn effeithio ar y sectorau creadigol mewn sawl ffordd.
Yn y cyd-destun hwn, mae cynllun y Llywodraeth yn gefnogaeth i'w groesawu i sector sy'n dibynnu'n helaeth ar weithwyr llawrydd. Fodd bynnag, nid yw llawer o weithwyr llawrydd creadigol yn gymwys ar gyfer y cynllun, ac i'r rheini sy'n gymwys, mae'r cynllun ymhell o'r cymhorthdal mae'r Llywodraeth yn ei gynnig i gyflogeion ar seibiant.”
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau a nodwyd.
Yn fwy diweddar, mae Dr César Jiménez-Martínez wedi edrych ar rôl a lle cenedlaetholdeb yn ystod argyfwng byd-eang a pha mor bwysig yw’r genedl i’n bywydau bob dydd.
Meddai, “Nid yw diystyru cenedlaetholdeb fel gwaith eithafwyr neu ideolegau yn unig yn mynd â ni yn bell iawn i ddeall pam mae ffurfiau adnabod a chydsafiad cenedlaethol yn bwysig o hyd i gynifer o bobl ledled y byd.”
Dywedodd yr Athro Stuart Allan, Pennaeth yr Ysgol wrth gael ei wahodd i roi sylwadau ar fenter JOMEC: “Mae’n galonogol gweld cydweithwyr yn rhannu eu harbenigedd i helpu i lywio, i ennyn diddordeb ac i ysbrydoli ymatebion strategol i’r argyfwng hwn, a’i oblygiadau i’n cyd-ddinasyddion.”
Dilynwch @CardiffJOMEC ar Twitter i glywed pan gaiff erthyglau newydd eu cyhoeddi.