Ewch i’r prif gynnwys

Beth mae ein hieithwedd yn ei ddweud wrthym am newid iaith

20 Ebrill 2020

Astudiaeth newydd yn dangos sut mae newid cymdeithasol a diwylliannol yn sbardunau allweddol yn y ffordd mae ein hiaith yn newid

Mae ymchwil gan ieithydd corpws meintiol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn herio'r meddylfryd am newid iaith.

Mae Formulaic Language and Linguistic Change: A Data-Led Approach gan Dr Andreas Buerki yn ymchwilio iaith fformiwläig o safbwynt newid iaith. Gan ddefnyddio ymagwedd newydd feintiol ar sail data, mae'n olrhain ac yn dadansoddi newid mewn ieithwedd dros yr ugeinfed ganrif, yn seiliedig ar achos prawf Almaeneg fel y'i defnyddir yn y Swistir - sy'n ddelfrydol oherwydd y gymuned lafar â'r gymuned ddiwylliannol fach mae'n ei chynrychioli.

Mae cyfran sylweddol o'n hiaith bob dydd yn fformiwläig. Mae'r darnau hynny a ailadroddir yn aml - fel 'ti'n gwybod' ac ymadroddion fel 'diolch yn fawr!' ac 'Oes rhywun yn eistedd yma?' - yn ffurfio ffenomen sy'n ganolog yn y defnydd o iaith.

Gan dynnu ar yn agos i 20 miliwn o eiriau o dystiolaeth destunol, mae cyfrol Buerki yn dangos mai newid cymdeithasol a diwylliannol yn y gymuned lafar yw'r prif symbyliad dros newid, er bod ffactorau eraill, yn cynnwys dynameg fewnol iaith fel system o batrymau sy'n rhyngweithio, hefyd ar waith.

Mae ei waith yn dangos cyswllt agos rhwng newid iaith a diwylliant y gymuned lafar, gan ddadlau bod gan hyn oblygiadau o ran astudiaethau iaith yn gyffredinol, yn ogystal ag astudiaethau cymdeithas a hanes.

Gan weithio yn y Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu, mae'r ieithydd corpws meintiol a'r ieithweddwr Dr Andreas Buerki yn edrych ar sut y caiff iaith ei defnyddio mewn gwirionedd gan y rheini sy'n ei siarad ac yn ei hysgrifennu mewn cyd-destunau go iawn.

Yn ei gyfrol newydd mae'n datgelu bod patrymau iaith yn newid yn gyflymach o lawer nag oedd llawer o ieithyddion yn ei feddwl:

"Sbardun y newid hwn yn bennaf yw rhyng-gysylltedd iaith gyda'r hyn sy'n digwydd yng nghymuned defnyddwyr yr iaith honno.  Er bod newid ieithyddol bob amser yn cael ei gyfyngu a'i addasu gan y ffaith fod iaith yn system o arwyddion sy'n gorfod cynnal trefn benodol i barhau'n effeithiol, gobeithio y bydd y canfyddiadau hyn yn helpu i ailgysylltu astudiaeth ddamcaniaethol o iaith gydag astudiaeth ehangach o ddiwylliant, cymdeithas a hanes mewn ffyrdd sy'n cydnabod pwysigrwydd dwys y meysydd cyfagos hyn pan ddaw i esbonio sut mae iaith yn gweithredu ac yn newid yn ei holl weddau."

Mae Dr Andreas Buerki yn aelod o Rwydwaith Corpws Caerdydd a'r Rhwydwaith Diwylliannau Digidol ac mae ar fwrdd gweithredol Cymdeithas Ieithwedd Ewrop. Ymhlith ei gyhoeddiadau academaidd diweddar mae Furiously Fast: on the speed of change in formulaic language, (How) is formulaic language universal? Insights from Korean, German and English a Brexit Phraseology, a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ieithyddiaeth Corpws Rhyngwladol 2019.

Cyhoeddir Formulaic Language and Linguistic Change: A Data-Led Approach y mis hwn gan Wasg Prifysgol Caergrawnt.

Rhannu’r stori hon