Ewch i’r prif gynnwys

Mynd at wraidd y broblem

30 Mawrth 2016

Dentist and patient

Astudiaeth yn dangos bod meddygon teulu yn rhoi gwrthfiotigau 'diangen' ar gyfer y ddannoedd

Yn ôl ymchwil newydd gan y Brifysgol, ni chynigiwyd triniaeth hirdymor i dros hanner yr holl gleifion a aeth i weld meddyg teulu ynghylch problem ddeintyddol yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf. Yn lle hynny, rhoddwyd gwrthfiotigau iddynt, a hynny'n aml yn ddiangen.

Mewn astudiaeth 10 mlynedd a gyhoeddwyd yn y British Journal of General Practice, bu tîm o arbenigwyr o'r Ysgol Deintyddiaeth yn edrych ar ymgynghoriadau deintyddol mewn meddygfeydd yn y DU a faint o wrthfiotigau a roddwyd ar bresgripsiwn o ganlyniad iddynt.

Daeth i'r amlwg yn yr astudiaeth fod llawer o gleifion yn mynd i weld meddyg teulu yn hytrach na'u deintydd, a bod gwrthfiotigau wedi'u rhoi o ganlyniad i dros hanner yr ymgynghoriadau hyn. Nid yw'r gwrthfiotigau hyn o unrhyw fudd yn ôl pob tebyg, a gallant fod yn niweidiol.

“Dangosodd ein hastudiaeth fod llawer o bobl yn ymweld â'u meddyg teulu yn hytrach na'u deintydd pan mae ganddynt broblemau deintyddol,” meddai Dr Anwen Cope, sy'n ddeintydd cymwys ac yn hyfforddai arbenigol mewn Iechyd Deintyddol y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Cwblhaodd Dr Cope yr ymchwil gyda chydweithwyr o Ysgolion Deintyddiaeth a Meddygaeth y Brifysgol.

"Ni all meddyg teulu fynd i'r afael â'r rhan fwyaf o broblemau deintyddol mewn modd cynhwysfawr. Mae hyn yn rhoi baich ychwanegol ar feddygon teulu sydd eisoes yn brysur pan ddylai cleifion ymweld â deintydd.

“Tynnu dant neu drin gwraidd y dant yw'r driniaeth orau o hyd ar gyfer achos difrifol o'r ddannoedd. Dim ond deintydd sy'n gallu ymgymryd â'r triniaethau hyn. Felly, byddem bob amser yn annog cleifion i weld deintydd, yn hytrach na meddyg teulu, pan fydd problemau deintyddol."

Y canfyddiad mwyaf brawychus oedd nifer y presgripsiynau diangen o wrthfiotigau yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf.

Daeth i'r amlwg fod gwrthfiotigau wedi'u rhoi i dros hanner y cleifion o dan sylw yn yr astudiaeth a aeth i weld eu meddyg teulu ynghylch problem ddeintyddol. Mae hyn yn peri cryn bryder ynghylch iechyd deintyddol hirdymor yn y DU a sut allai gyfrannu at greu ymwrthedd i wrthfiotigau.

Mae ymwrthedd i gyffuriau gwrthfiotig, sy'n digwydd pan mae heintiau bacterol yn rhoi'r gorau i ymateb i wrthfiotigau, yn broblem ddifrifol, a'r defnydd o wrthfiotigau yw'r ffactor unigol pwysicaf sy'n arwain at ymwrthedd.

Ychwanegodd Dr Cope: “Mae'r defnydd eang o wrthfiotigau gan feddygon er mwyn rheoli cwynion deintyddol yn peri pryder.

"Er nad yw gwrthfiotigau'n cynnig y driniaeth orau ar gyfer problemau deintyddol, daeth i'r amlwg i ni fod gwrthfiotig wedi'i roi yn dilyn dros hanner yr ymgynghoriadau.

"Mae hyn yn creu nifer o broblemau. Mae'n golygu nad yw cleifion yn cael ateb tymor hir i'w problem ddeintyddol, a gallant fod mewn poen am gyfnod hyd yn oed yn hirach.

"Mae perygl hefyd y gallai gwrthfiotigau achosi adwaith andwyol ac mae'n debygol o gynyddu nifer yr ymgynghoriadau meddygol ar gyfer cyflyrau deintyddol maes o law.

“Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf yw'r posibilrwydd o gynyddu ymwrthedd i wrthfiotigau. Mae gwrthfiotigau'n achub bywydau, felly mae'n bwysig ein bod yn eu defnyddio'n ofalus a dim ond pan mae gwir angen i ni wneud hynny.

"Mae gwella'r ffordd y rhoddir gwrthfiotigau ar bresgripsiwn ar gyfer problemau deintyddol yn gam pwysig er mwyn gwneud yn siŵr y bydd gwrthfiotigau ar gael yn ystod y blynyddoedd nesaf."

Ni wnaeth yr ymchwil amlygu'r rhesymau pam mae cleifion yn mynd i weld eu meddyg teulu yn hytrach na'u deintydd. Mae'n bosibl bod meddygon teulu yn trin cleifion sydd wedi methu cael apwyntiad amserol gyda deintydd.

Fodd bynnag, mae'r tîm yn gobeithio y bydd yr astudiaeth yn annog mwy o ymgynghori priodol ar gyfer problemau deintyddol ac y bydd meddygon teulu yn rhoi llai o wrthfiotigau i gleifion sydd ag anawsterau deintyddol.

Ychwanegodd Dr Cope: “Mae'r negeseuon sy'n deillio o'n hastudiaeth yn rhai syml: Dylai meddygon teulu osgoi rhoi gwrthfiotigau i gleifion sydd â phroblemau deintyddol, ac mae angen gwneud rhagor i ganfod y ffordd orau o gyfeirio cleifion o'r fath at wasanaethau deintyddol brys.

“Bydd deall y rhesymau pam mae gwrthfiotigau'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn ar gyfer problemau iechyd y geg yn helpu i lywio ymyriadau addysgol ar gyfer meddygon teulu, i wneud yn siŵr bod cleifion yn cael y gofal mwyaf priodol ar gyfer eu cyflyrau deintyddol.”