Ewch i’r prif gynnwys

Taclo trais

29 Mawrth 2016

Professor Jonathan Shepherd

Mae'r Swyddfa Gartref wedi mabwysiadu model arloesol a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerdydd i fynd i'r afael â thrais, yn rhan o Strategaeth Atal Troseddu Modern newydd sydd i'w chyflwyno ledled y DU.

Mae'r rhaglen atal trais a ddatblygwyd gan yr Athro Jonathan Shepherd, yn defnyddio data o Unedau Damweiniau ac Achosion Brys i adnabod mannau hynod dreisgar, gan helpu asiantaethau gorfodi'r gyfraith a llywodraethau dinasoedd i leihau trais a chost triniaeth brys mewn ysbyty yn sgîl hynny.

Wrth lansio'r strategaeth yn Llundain, addawodd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May AS, i annog plismona mwy effeithiol mewn mannau hynod dreisgar, drwy rannu mwy o ddata unedau damweiniau ac achosion brys.

"Mae troseddau'n newid, felly mae angen i bob un ohonom newid ein dulliau atal troseddau, gan adeiladu ar lwyddiant y gorffennol a manteisio i'r eithaf ar waith ymchwil, technegau ac adnoddau newydd, i warchod y cyhoedd," meddai'r Ysgrifennydd Cartref yn y rhagair.

Mae'r cynllun Rhannu Gwybodaeth i Fynd i'r Afael â Thrais wedi dwyn ynghyd yr heddlu, staff meddygol ac awdurdodau lleol, i gasglu gwybodaeth am amseroedd a lleoliadau ymosodiadau, a'r arfau a ddefnyddiwyd. Defnyddir y data i lunio camau atal, gan gynnwys: addasu llwybrau'r heddlu, symud heddweision ychwanegol i ganol y ddinas ar adegau penodol, targedu safleoedd trwyddedig sy'n peri problemau, a chyflwyno gwydrau plastig mewn tafarndai a bariau.

Yn ôl y strategaeth: "Mae'r cynllun yn seiliedig ar Raglen Atal Trais Caerdydd, a arweiniodd at leihad sylweddol yn nifer y bobl a aeth i'r ysbyty oherwydd trais, ac rydym yn cefnogi'r gwaith hwn mewn mannau eraill."

Dywedodd yr Athro Jonathan Shepherd, sy'n cadeirio Grŵp Ymchwil Trais Caerdydd: "Mae'r ffaith bod ein gwaith ymchwil wedi'i gynnwys yn y Strategaeth Atal Troseddu Modern yn dyst i lwyddiant Model Caerdydd. Mae hefyd yn dangos sut mae canfyddiadau arbrofion trylwyr bellach yn cael eu defnyddio i lywio polisïau'r Llywodraeth. Drwy weithio gyda'n gilydd, gall y Llywodraeth, gwasanaethau iechyd a gorfodi'r gyfraith, busnesau a'r cyhoedd fynd i'r afael â mannau hynod dreisgar, a gwneud ein strydoedd a'n cymunedau'n lleoedd mwy diogel."

Treialwyd Model Caerdydd am y tro cyntaf yng Nghaerdydd (y DU) rhwng 2002 a 2007, ac mae wedi'i gyflwyno ledled y byd - yn fwyaf diweddar yn nhair o ddinasoedd mwyaf Awstralia: Melbourne, Sydney a Canberra.

Crëwyd Model Caerdydd gan y llawfeddyg, yr Athro Shepherd, 20 mlynedd yn ôl, pan ganfu nad oedd yr heddlu yn ymwybodol o'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau treisgar a oedd yn arwain at driniaeth frys mewn ysbyty. Yn aml, byddai'n rhaid i'r bobl a anafwyd yn yr achosion hyn gael llawdriniaeth i ailadeiladu'r wyneb yn ei theatr llawdriniaethau ef.

Yn 2008, enillodd "Model Caerdydd" gydnabyddiaeth ryngwladol pan ddyfarnwyd Gwobr Stockholm ar gyfer Troseddeg i'r Athro Shepherd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn defnyddio'r model fel enghraifft dda o atal trais ledled y byd.