Ewch i’r prif gynnwys

Antur ac addysg yng Nghanada i fyfyrwraig PhD

24 Mawrth 2016

Ysgoloriaeth yn ariannu ymweliad ymchwil o chwe wythnos ym Mhrifysgol McGill

Mae Sara Orwig yn hedfan i Ganada am gyfnod o astudiaeth gydag arbenigwyr Prifysgol McGill yn Montreal.

Mae Prifysgol McGill yn brifysgol anrhydeddus sydd ymysg y 25 gorau yn y byd yn ôl Rhestr QS.

Ariennir ymweliad Sara gan ysgoloriaeth y Cyngor Rhyngwladol dros Astudiaethau Canadaidd a’r Athro Catherine Leclerc, arbenigwr yn amlieithrwydd llenyddol a chyfieithu llenyddol yn yr Adran Ffrangeg, yw’r noddwr academaidd.

Mae doethuriaeth Sara yn ymwneud â chymharu cyfnewid côd mewn llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth Ffrangeg-Canadaidd ac mae hi’n gweld yr ymweliad fel cyfle amhrisiadwy i fanteisio ar adnoddau llyfrgell McGill.

Dywedodd Sara: “Wrth deithio i Ganada ac ymweld â McGill caf gyfle i gyfweld â nifer o’r awduron sydd yn gyfrifol am y testunau y byddaf yn eu dadansoddi yn fy noethuriaeth. Bydd yn gyfle hefyd i adeiladu perthynas gydag ysgolheigion nodedig yn y maes a’r rheiny sydd yn ymddiddori yn y cysylltiad rhwng dwyieithrwydd a llenyddiaeth.”

Ychwanegodd yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost, Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol y Gymraeg: “Mae’r daith yma yn gyfle arbennig i Sara fanteisio ar arbenigedd a phersbectif academyddion McGill. Bydd hi hefyd yn datblygu cysylltiadau proffesiynol a phersonol fydd o fudd iddi wrth ddatblygu ei doethuriaeth.”

Rhannu’r stori hon