Ewch i’r prif gynnwys

Darlithydd Cysylltiadau Rhyngwladol yn arwain cyflwyniad yn Swyddfa Cyffuriau a Throsedd y CU

14 Ebrill 2020

Yn ddiweddar gwahoddodd Swyddfa Cyffuriau a Throsedd y CU ddarlithydd o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth i gyflwyno ei ymchwil mewn digwyddiad yn Fiena.

Mae ymchwil y darlithydd Cysylltiadau Rhyngwladol Martin Horton-Eddison yn edrych ar farchnadoedd cyffuriau anghyfreithlon ar y 'we dywyll' a'r heriau a ddaw yn eu sgil i reoli cyffuriau'n rhyngwladol.

Fel arbenigwr yn y maes, gwahoddwyd Martin i arwain cyflwyniad yn y 63ain Sesiwn o'r Comisiwn ar Gyffuriau Narcotig. Cafodd y digwyddiad: Drug CryptoMarkets Beyond 2020: Policy, Enforcement, Harm, and Resilience ei noddi a'i gadeirio gan Lywodraeth Teyrnas yr Iseldiroedd, a'i gyd-noddi gan sefydliad gwirio cyffuriau Sbaen Energy Control, ynghyd â'r Consortiwm Polisi Cyffuriau Rhyngwladol, a'r Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang. Roedd y cynrychiolwyr yn cynnwys llunwyr polisïau allweddol o lywodraethau cenedlaethol a sefydliadau rhyngwladol, yn ogystal ag uwch swyddogion gorfodi'r gyfraith o bedwar ban byd.

Cyflwynodd Martin ei ymchwil academaidd ddiweddaraf ar gryptofarchnadoedd cyffuriau. Cryptofarchnad cyffuriau yw gwefan sy'n ymwneud â phrynu a gwerthu cyffuriau anghyfreithlon yn ddienw gyda thaliadau'n cael eu gwneud drwy gryptoarian. Gall y safleoedd weithio yn yr un ffordd â gwefannau marchnad cyfreithlon (fel Amazon neu ebay) ond mae'r stoc yn anghyfreithlon gyda'r safleoedd yn cael eu cynnal ar y 'we dywyll'.

Yn aml amheuir bod cryptofarchnadoedd yn cyflenwi'r cyffur synthetig Fentanyl, ac felly cânt eu hystyried yn ffactor sy'n gwaethygu'r argyfwng opioid presennol yng Ngogledd America.

Cynyddodd cyflwyniad Martin sail gwybodaeth y rheini oedd yn bresennol mewn maes dynamig sy'n symud yn gyflym ac sydd o bryder i'r gymuned ryngwladol. Roedd y digwyddiad llawn yn gyfle i gynrychiolwyr drafod y safbwyntiau a gyflwynwyd ar sail tystiolaeth gan Martin a'i dîm allweddol o bobl ag awdurdod byd-eang yn y maes, yn cynnwys y Troseddegwyr yr Athro Judith Aldridge a Mr Patrick Shortis o Brifysgol Manceinion, a phennaeth gwasanaeth gwirio cyffuriau Energy Control, Dr Fernando Caudevilla.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Martin, "Mae dadansoddiad o'r sail tystiolaeth sy'n ymddangos a'n hymchwil empirig ni'n awgrymu darlun cymysg: y gallai fod canlyniadau anfwriadol i unrhyw ddull o orfodi'r gyfraith sy'n arwain yn y pen draw at dynnu'r holl farchnadoedd oddi ar-lein... yn lle hynny gallai strategaethau cynnil wedi'u gwreiddio mewn polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar draws y CU leihau rhai o ganlyniadau dieisiau rhai arferion gorfodi cyfredol. Er enghraifft, gallai gorfodi yn erbyn y sylweddau a'r gwerthwyr mwyaf niweidiol yn unig, gan gydnabod hefyd natur rhai marchnadoedd ar-lein sydd o bosibl yn lleihau niwed, fod yn gam cyntaf defnyddiol at ddull gweithredu rhyngwladol y cytunir arno (sydd fel arall yn absennol). Dim ond cytundeb rhyngwladol ar sail academaidd fydd yn gallu arwain at benderfyniadau priodol gan y CU a chyfeiriad gorfodi cydweithredol."

Roedd y digwyddiad yn arddangos ymchwil polisi arloesol Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, yn ogystal â'i chysylltiadau â chyrff rhyngwladol a grwpiau ymchwil allanol. Mae’r addysgu mae Martin yn ei wneud yn yr Ysgol yn cynnwys y modiwl Llywodraethiant Byd-eang ac mae cyfranogi mewn digwyddiadau fel y rhain yn sicrhau bod ein haddysgu'n cael ei lywio gan ymarfer ac yn parhau'n berthnasol ac yn seiliedig ar ymchwil.

Rhannu’r stori hon