Barod ar gyfer diwrnod y ras
21 Mawrth 2016
Mae cannoedd o fyfyrwyr a staff y Brifysgol yn paratoi i chwarae rhan bwysig yn un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf sydd erioed wedi'i gynnal yng Nghaerdydd.
Cynhelir Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF, a noddir gan y Brifysgol, ddydd Sadwrn, 26 Mawrth. Bydd miloedd yn rhedeg yn ôl traed 200 o athletwyr o'r radd flaenaf, gan gynnwys Mo Farah sydd wedi dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd.
Bydd y Brifysgol yn cynnal digwyddiad o'r enw 'Mo yn Ysbrydoli' ('Mo Inspires') hefyd ddydd Gwener gyda Run4Wales yn Arena Motorpoint pryd y caiff plant ysgol lleol y cyfle i gwrdd â Mo a'i holi.
Bydd dros 200 o staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr yn rhedeg fel rhan o Dîm Caerdydd y Brifysgol Caerdydd, a bydd gan hyd at 300 o staff a myfyrwyr rôl hollbwysig fel gwirfoddolwyr i gefnogi'r digwyddiad.
Mae'r Brifysgol wedi'i chyhoeddi fel prif noddwr newydd Hanner Marathon Caerdydd ar ôl noddi Hanner Marathon y Byd yn llwyddiannus. Bydd nifer cyfyngedig o leoedd ar gael yn rhad ac am ddim i redwyr sy'n addo codi arian ar gyfer ymchwil canser neu ymchwil dementia ac iechyd meddwl a gynhelir yn y Brifysgol.
Mae Dr Lee Parry, sy'n gymrawd ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd y Brifysgol, ymhlith yr aelodau staff sy'n rhedeg.
Meddai: "Rwy'n meddwl bod hyn yn dangos twf a dyhead y Brifysgol yn glir".
"Fel bachgen lleol o'r cymoedd a chynfyfyriwr, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y diwrnod oherwydd bydda i'n teimlo llawer iawn o falchder wrth weld fy Mhrifysgol a fy mhrifddinas yn cynnal ras Hanner Marathon ac yn croesawu rhedwyr o'r radd flaenaf fel Mo Farah."
Mae Dr Parry yn codi arian ar gyfer y sefydliad ymchwil y mae'n gweithio ynddo. Mae'r sefydliad yn ceisio mynd i'r afael â chanser mewn ffordd wahanol drwy dargedu'r ychydig gelloedd sy'n gallu cynnal tiwmor a chreu tiwmor newydd ar ôl cael triniaeth.
Mae rhedwyr y Brifysgol yn codi arian ar gyfer amrywiaeth o achosion da, gan gynnwys tri o achosion Prifysgol Caerdydd – ysgoloriaethau a bwrsariaethau, ymchwil canser ac ymchwil ynglŷn dementia.
Dymunodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, y gorau i redwyr Tîm Caerdydd: “Hoffwn ddymuno'r gorau i chi gyd ar gyfer Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd a dweud pa mor falch yr ydym eich bod yn rhedeg i Dîm Caerdydd.
“Bydd yn ddigwyddiad unigryw i'n dinas, a bydd gan y Brifysgol rôI hollbwysig yn ei lwyddiant.
“Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhai ohonoch fydd, yn sgîl eich ymdrechion arbennig, yn codi arian yn ogystal ag ymwybyddiaeth o waith hanfodol y Brifysgol ym maes ymchwil canser a dementia. Pob lwc!”
Mae'r ffaith fod y Brifysgol yn brif bartner yn golygu ei bod i'w gweld yn amlwg yn y digwyddiad a gaiff ei ddarlledu ledled y byd ac yn fyw ar y BBC.
Mae'n gyfle i arddangos y Brifysgol a'r ddinas, a bydd yr athletwyr yn gorffen eu ras wrth ymyl rhai o adeiladau hanesyddol y Brifysgol fel Adeilad Bute ac Adeilad Morgannwg.
Gan fod iechyd y cyhoedd yn rhan amlwg o'i gwaith, mae'r Brifysgol wedi bod yn brysur yn hyrwyddo manteision ffordd iach a gweithgar o fyw.
Mae'r gweithgareddau'n cynnwys prosiect ymchwil gydag Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd sy'n ceisio canfod beth sy'n ysgogi pobl i redeg.
Mae'r tîm ymchwil yn gobeithio y bydd eu canfyddiadau o'r digwyddiad yn helpu trefnwyr rasys torfol i ddenu amrywiaeth ehangach o redwyr yn y dyfodol, a gwella iechyd y genedl yn sgîl hynny.
Meddai Dr Liba Sheeran, sy'n arwain yr astudiaeth: "Mae lefelau isel o weithgarwch corfforol yn ffactor arwyddocaol a allai achosi salwch a marwolaeth o ganlyniad i amrywiaeth o achosion.
"Er bod pawb yn gwybod bod ymarfer corff yn dda i chi, yr her yw canfod beth sy'n eu cymell i fod yn egnïol a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.
"Er gwaethaf y dystiolaeth fod rasys torfol yn gynyddol boblogaidd, nid yw'n hysbys a yw pobl yn parhau i ymarfer yn rheolaidd ar ôl cwblhau'r ras na beth sy'n eu hysgogi neu'n eu hatal rhag rhedeg."
Mae'r ymchwil yn cyd-fynd â Rhaglen Trawsnewid Cymunedau Prifysgol Caerdydd sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi gweithio gydag IAAF a Run4Wales hefyd i gynnig lleoedd am ddim, dillad rhedeg a hyfforddiant i gefnogi 500 o redwyr dibrofiad o rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig sy'n cymryd rhan am y tro cyntaf.