Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr newydd i frechlyn HIV?

18 Mawrth 2016

 Aids ribbon on hand

Patsys nanotechnoleg yn cynnig posibilrwydd o frechlyn HIV "effeithiol iawn"

Mae gwyddonwyr wedi defnyddio nanodechnoleg i ddatblygu beth allai fod yn system frechu effeithiol yn erbyn HIV-1, yn eu barn nhw.

Mae gan firws HIV ffyrdd unigryw o osgoi’r system imiwnedd, ac mae'n ymddangos nad yw’r corff dynol yn gallu ymateb yn effeithiol yn ei erbyn.

Heddiw, yn Journal of Investigative Dermatology, mae ymchwilwyr o Sefydliad Haint ac Imiwnedd Prifysgol Caerdydd yn disgrifio rhoi brechlyn i samplau croen dynol a thiwbiau prawf, a oedd yn ennyn ymateb imiwnedd gwrth-HIV penodol sy'n gallu trechu’r feirws.

Roedd gwyddonwyr yn rhoi’r brechlyn gan ddefnyddio patsys nodwyddau micro.

Maent yn dweud bod y dull hwn o roi nanoronynnau yn y croen yn fwy effeithiol na dulliau eraill sy'n cynnwys pigiadau i fraster neu feinwe y cyhyrau, o ystyried bod y croen yn hynod fasgwlaidd ac yn cynnwys llawer o gelloedd imiwnedd.

Datblygwyd y brechlyn drwy ymgyfuno protein o'r enw p.24 – sef y cynhwysyn pennaf yng nghraidd feirysol HIV – gyda nanoronynnau, i greu antigen unigryw (moleciwl sy’n gallu achosi i system imiwnedd greu gwrthgyrff yn erbyn y clefyd).

"Mae ein gwaith ymchwil yn cynnig llwybr newydd posibl at frechlyn effeithiol iawn yn erbyn HIV - clefyd sy'n heintio cynifer â dwy filiwn o bobl bob blwyddyn," meddai’r cydawdur, Dr Stephan Caucheteux, darlithydd yn Isadran Haint ac Imiwnedd Prifysgol Caerdydd.

Ychwanegodd: "Y fantais yn sgîl defnyddio nanodechnoleg i ymladd y clefyd hwn yw ei fod yn gwneud y brechlyn yn llawer mwy gwydn, ac yn rhoi bywyd silff hwy iddo, gan ganiatáu iddo gael ei gludo i ardaloedd anghysbell yn ddiogel ac yn effeithlon, heb newid gweithgarwch biolegol yr antigen.

"Mae'r dull hwn yn paratoi'r ffordd ar gyfer ei brofi mewn treialon dynol, ac mae hefyd yn cynnig strategaeth amgen ar gyfer ffyrdd gwell o ddarparu brechlynnau presennol yn erbyn clefydau eraill."

Cyfarwyddwyd y gwaith ymchwil gan yr Athro Vincent Piguet, Cyfarwyddwr Is-adran Haint ac Imiwnedd Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Biobeirianneg(IBI), Lausanne, EPFL (y Swistir). Fe'i ariannwyd yn bennaf gan Sefydliad Bil a Melinda Gates.

Rhannu’r stori hon