Prifysgol Caerdydd yn dathlu Awr y Ddaear
18 Mawrth 2016
Annog myfyrwyr a staff i ddiffodd goleuadau
Mae Prifysgol Caerdydd yn cefnogi Awr y Ddaear WWF, digwyddiad ysblennydd a symbolaidd lle caiff goleuadau eu diffodd er mwyn i'r byd ganolbwyntio ei sylw ar ein planed, a'r angen i'w gwarchod.
Ar 19 Mawrth, am 8.30pm, byddwn yn annog staff a myfyrwyr i ddiffodd yr holl oleuadau nad ydynt yn hanfodol yn eu gweithleoedd neu yn eu neuaddau preswyl.
Mae arddangosfa dywyllwch unigryw Awr y Ddaear bellach yn ffenomen fyd-eang, ac mae cannoedd o filiynau o unigolion yn dod ynghyd ar ei gyfer bob blwyddyn.
Y llynedd, cafwyd y digwyddiad mwyaf eto, wrth i gannoedd o filiynau o bobl gymryd rhan ar draws 162 o wledydd a 7,000 o drefi a dinasoedd, ochr yn ochr â thirnodau enwog y byd fel Tŷ Opera Sydney a Times Square yn Efrog Newydd.
Yng Nghymru, amcangyfrifir y bu i 500,000 o bobl gymryd rhan, gan gyfleu neges unedig o gefnogaeth. Roedd tirnodau Cymru a fu'n cymryd rhan yn cynnwys y Senedd ym Mae Caerdydd, Castell Caernarfon, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Gall pawb gofrestru i ymuno ag Awr y Ddaear WWF. Ymunwch â'r sgwrs ar Twitter gyda'r hashnod #LightsOutCymru ac #EarthHour, a drwy ddilyn @wwfcymru.