Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Chris McGuigan 1958 - 2016

14 Mawrth 2016

Yr Athro Chris McGuigan
Yr Athro Chris McGuigan

Trist iawn oedd clywed y newyddion am farwolaeth yr Athro Chris McGuigan (11 Mawrth 2016) yn dilyn ei frwydr â chanser.

Cydymdeimlwn â'i deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr agos ar yr adeg hynod drist hwn. 

Yn rhinwedd ei waith fel dylunydd a datblygwr cyffuriau arbenigol, mae'r Athro McGuigan wedi bod yn rhan greiddiol o waith ymchwil gwyddonol hanfodol ers dros 30 mlynedd.

Dywedodd yr Athro Gary Baxter, Pennaeth yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol: "Mae llawer ohonom wedi colli ffrind yn ogystal â chydweithiwr a mentor. Roedd gan Chris ddylanwad eang iawn ar yr Ysgol, y Brifysgol, Cymru a thu hwnt, a bydd llawer yn talu teyrnged bersonol iddo dros yr wythnosau nesaf. Am y tro, gadewch i mi nodi'r fraint o weithio gyda dyn â'm hysbrydolodd â'i gyflawniadau gwyddonol a'i rinweddau personol." 

Roedd yr Athro McGuigan, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, yn un o wyddonwyr mwyaf blaenllaw'r DU ym maes darganfod cyffuriau gwrth-ganser.  Roedd yn llawn brwdfrydedd dros ddefnyddio ei syniadau gwyddonol er lles cymdeithasol, gan weithio'n ddiflino i roi sylw i anghenion meddygol lle nad oeddent yn cael eu diwallu.

Roedd yn Gadeirydd Canolfan y Gwyddorau Bywyd, sef prif ganolfan twf busnes y gwyddorau bywyd yng Nghymru. Nod y Ganolfan yw meithrin cwmnïau cynhenid a denu'r doniau rhyngwladol gorau. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil y Gwyddorau Bywyd yng Nghymru, menter £15m sydd am ariannu 100 o brosiectau darganfod cyffuriau newydd ledled Cymru.

Roedd arbenigedd ymchwil yr Athro McGuigan yn ymwneud â darganfod a datblygu cyffuriau newydd ar gyfer canser, HIV, hepatitis B ac C, yr eryr, y frech goch, ffliw a chlefyd CNS. Dyfeisiodd bedwar cyffur arbrofol newydd sydd bellach yn rhan o dreialon clinigol dynol, ac mae wedi cyhoeddi dros 200 o bapurau gwyddonol a chyflwyno dros 100 o geisiadau patent.  Roedd y gwaith hwn yn cynnwys cydweithio'n agos â gwyddonwyr ledled Ewrop ac UDA. 

Roedd yr Athro McGuigan yn ddyfeisiwr ac yn fferyllydd hynod ddawnus, a neilltuodd dros 30 mlynedd i arwain tîm ymchwil pwysig, o fri rhyngwladol, a hyfforddi dros 100 o fyfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol.  Bydd y Brifysgol gyfan a'r gymuned wyddonol ehangach yn teimlo'r golled yn fawr.

Rhannu’r stori hon