Ewch i’r prif gynnwys

Cyn-fyfyriwr yn Fardd Cenedlaethol Cymru

11 Mawrth 2016

Ysgol y Gymraeg yn llongyfarch cyn-fyfyriwr, y Prifardd Ifor ap Glyn, ar ei rôl newydd

Mae Ifor ap Glyn wedi cael ei enwi gan Llenyddiaeth Cymru i olynu Gillian Clarke fel Bardd Cenedlaethol Cymru.

Bydd Ifor yn ymgymryd â’i rôl fel pedwerydd Bardd Cenedlaethol Cymru ar 31 Mai 2016 mewn digwyddiad gyda’i ragflaenwyr Gillian Clarke, Gwyn Thomas a Gwyneth Lewis yng Ngŵyl y Gelli.

Ganed Ifor yn Llundain i deulu Cymraeg ond mae’r bardd, cyflwynydd a chyfarwyddwr gyda Chwmni Da, bellach yn byw yng Nghaernarfon. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith - ym 1999 ac yn 2013 - a threuliodd flwyddyn fel Bardd Plant Cymru (2008-2009).

Astudiodd Ifor am radd yn y Gymraeg a Hanes Cymru ym Mrifysgol Caerdydd rhwng 1980 a 1983. Mae rhai o staff yr Ysgol yn ei gofio yn dda.

Dywedodd Yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg a chyn-ddarlithydd ar Ifor: “Hoffwn longyfarch Ifor ar y fraint arbennig hon. Rydym yn falch iawn o’r cysylltiad rhyngddo a’r Ysgol.

“Mae Ysgol y Gymraeg wedi bod yn feithrinfa i rai o lenorion ac ysgolheigion mwyaf Cymru. Pleser o’r mwyaf yw gweld un o’n cyn-fyfyrwyr yn cael ei gydnabod yn gyhoeddus fel hyn. Rydym yn dymuno’n dda iddo yn y swydd ac yn gobeithio y cawn ei groesawu yn ôl i’r Ysgol yn fuan iawn.”

Rhannu’r stori hon