Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwiliad i Wasanaeth Teledu Cyhoeddus yn cyhoeddi digwyddiad yng Nghaerdydd

11 Mawrth 2016

Video Camera

Cynulleidfaoedd Cymru i gyfrannu at Ymchwiliad cenedlaethol o dan arweiniad yr Arglwydd Puttnam

Bydd cyfle i gynulleidfaoedd Cymru gyfrannu at yr 'Ymchwiliad i Ddyfodol Gwasanaeth Teledu Cyhoeddus' wrth i'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol gynnal digwyddiad panel arbennig ym mis Ebrill eleni.

Sefydlwyd yr Ymchwiliad, o dan arweiniad yr Arglwydd Puttnam, i bwyso a mesur rolau a chyfrifoldebau teledu Prydain mewn byd digidol, a gwneud argymhellion ynghylch sut gall teledu feithrin diwylliant cyhoeddus mwy creadigol a chadarn yn yr 21ain ganrif.

Dywedodd Sian Powell, fydd yn cadeirio'r panel, ac sy'n ddarlithydd ac yn ymchwilydd yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol: "Mae gan wasanaeth teledu cyhoeddus rôl hollbwysig yn nhirwedd y cyfryngau yng Nghymru, felly rwy'n falch y cydnabuwyd bod angen cynrychioli lleisiau a barn ranbarthol yn yr Ymchwiliad.

"Fel ymarferwyr ac academyddion, rydym yn gweithio'n feunyddiol i ddeall effeithiau newidiadau technolegol ac ariannol yn y cyfryngau ar y presennol a'r dyfodol.

"O'r herwydd, rydym mewn sefyllfa dda i gynnal y digwyddiad hwn, ac edrychwn ymlaen at groesawu pobl fusnes, academyddion, newyddiadurwyr, a defnyddwyr y cyfryngau yng Nghymru, yn ogystal â'n panel nodedig, i ystyried diben gwasanaeth teledu cyhoeddus, a'i le nawr ac yn y dyfodol."

Bydd cyfle i'r sawl sy'n bresennol fynegi ei farn ar ôl clywed safbwyntiau'r panelwyr, sy'n brofiadol ym maes diwydiant y cyfryngau:

  • Angharad Mair (BAFTA Cymru a Tinopolis)
  • Huw Jones (Cadeirydd, S4C)
  • Ian MacKenzie (Pennaeth Gwledydd a Rhanbarthau, Channel 4)
  • Angela Graham (Sefydliad Materion Cymreig)
  • Rhys Evans (Pennaeth Strategaeth a Digidol, BBC Cymru)
  • Y Cadeirydd fydd Sian Powell (Prifysgol Caerdydd)

Dywedodd yr Athro Des Freedman, Arweinydd y Prosiect ar gyfer yr Ymchwiliad ym Mhrifysgol Goldsmiths: "Mae'n hynod bwysig i ni glywed llais pobl Cymru, a'i adlewyrchu, yn yr adolygiad cynhwysfawr hwn o wasanaeth teledu cyhoeddus. 

"Bydd y digwyddiad hwn, ei banel nodedig o siaradwyr a'r cyfraniad gan y gynulleidfa, yn gwneud cyfraniad sylweddol at ein gwaith ymchwil a'n canfyddiadau."

Cynhelir y digwyddiad hwn am 6.00pm, ddydd Mercher 6 Ebrill ym Mhrifysgol Caerdydd. Rhaid i chi gofrestru i ddod i'r digwyddiad.

Rhannu’r stori hon