Ewch i’r prif gynnwys

Tair ras fawr i fyfyriwr PhD

9 Mawrth 2016

Student running

Bydd staff a myfyrwyr yn codi miloedd o bunnoedd ar gyfer achosion da ym Mhencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd, ond nid llawer sy'n fwy brwdfrydig na Rhiannon Philp.

Nod y myfyriwr PhD 27 mlwydd oed yw codi £2,000 ar gyfer Ymchwil Alzheimer y DU, er cof am ei mam-gu Val Volans a fu farw yn 2013 ar ôl ymladd y clefyd am wyth mlynedd.

Mae Rhiannon yn rhedeg dwy ras hanner marathon a Marathon Llundain dros gyfnod o saith mis, fel rhan o'i hymgyrch codi arian "Rhi-Runs".

Cwblhaodd Rhiannon her debyg dair blynedd yn ôl, gan godi £2,500.

Cynhelir ras Hanner Marathon y Byd, a noddir gan y Brifysgol, ddydd Sadwrn 26 Mawrth. Bydd dros 200 o staff a myfyrwyr yn rhedeg fel rhan o Dîm Caerdydd, yn codi arian ar gyfer llawer o achosion da.

Dywedodd Rhiannon: "Dechreuodd fy mam-gu fod ychydig yn anghofus, ond yna dechreuodd gofio llai a llai."

"Byddai'n cerdded o'r tŷ gan anghofio sut i gyrraedd adref, a daeth bywyd bob dydd yn anodd iddi hi a'm tad-cu.

"Parhaodd hynny am tua wyth mlynedd. Tuag at y diwedd, ni allai hi gofio pwy oedd neb, ac nid oedd yn gallu ymateb. Yn y pen draw, rhoddodd y gorau i fwyta, gan na allai hi lyncu."

Pan oedd ei mam-gu yn sâl, penderfynodd Rhiannon godi arian ar gyfer Ymchwil Alzheimer y DU. Bu farw Val ychydig cyn i Rhiannon redeg Marathon Llundain yn 2013.

"Erbyn y diwedd, roedd yn rhyddhad nad oedd hi'n dioddef mwyach. Roedd yn dorcalonnus ei gwylio'n dirywio," meddai Rhiannon.

"Rwyf wir am gyfrannu tuag at ddod o hyd i wellhad, oherwydd ni ddylai neb orfod mynd drwy hynny."

Roedd rhedeg Hanner Marathon Caerdydd y llynedd, a Hanner Marathon y Byd a Marathon Llundain eleni, yn gyfle rhy dda i Rhiannon ei golli.

Er ei bod yn hynod frwdfrydig dros godi arian ar gyfer achos mor dda, mae un agwedd ar redeg nad yw hi'n ei fwynhau - yr hyfforddiant.

"Nid wyf yn ei fwynhau o gwbl. Dyna'r peth gorau am godi arian - does dim dewis ond cyflawni'r gamp!" meddai.

grandma and student baby

Mae Rhiannon yn wreiddiol o swydd Gaergrawnt, ond mae ganddi gysylltiadau â'r Brifysgol ers tro. Bu'n astudio ar gyfer gradd israddedig a gradd Meistr mewn archaeoleg yma rhwng 2006 a 2010, cyn dychwelyd yn 2014 i ddilyn gradd PhD mewn archaeoleg amgylcheddol yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Mae hi'n falch iawn bod gan y Brifysgol ran fawr yn y ras, ac yn credu y bydd y digwyddiad yn gyfle da i sicrhau amlygrwydd rhyngwladol.

"Mae'n wych bod y Brifysgol yn cymryd rhan yn y math hwn o beth. Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd iechyd a chwaraeon, ac fel cystadleuaeth Pencampwriaeth y Byd, mae'n rhoi sylw gwych i'r Brifysgol a'r ddinas," meddai.

Gall unrhyw un sydd am roi arian i achos  Rhiannon wneud hynny yma. Mae gwaith ymchwil ar ddementia ymhlith tri o achosion Prifysgol Caerdydd y mae cyfle i redwyr eu helpu. Mae cefnogi myfyrwyr ac ymchwil canser ymhlith yr achosion eraill. Mae rhedwyr wedi bod yn cofrestru ar ein tudalennau JustGiving.

Oherwydd y galw, mae cyfle arall i chi gofrestru ar gyfer ras dorfol Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd. Gallwch gofrestru yma ar gyfer y ras, er mwyn rhedeg yn ôl-troed Mo Farah.

Mae llawer o staff a myfyrwyr y Brifysgol yn rhedeg. Cliciwch i weld cyfweliadau byr: Dr Lee Parry o Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd https://youtu.be/Uf8gaJnLM0w; a’r myfyriwr Meddygaeth, Tom Chandy https://youtu.be/D5AgxOCqVVw.