Ewch i’r prif gynnwys

Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feddygon yng Nghymru

5 Mawrth 2016

med day

Mae darpar feddygon wedi cael cipolwg ar yrfa mewn meddygaeth, mewn digwyddiad un diwrnod ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd cynhadledd MedWales yn dod â 200 o fyfyrwyr blwyddyn 12 o bob cwr o Gymru ynghyd i gael gwybod rhagor am hyfforddiant meddygol, gan roi gwybodaeth iddynt am y daith o fod yn fyfyriwr Safon Uwch i fod yn feddyg sylfaen, a thu hwnt. 

Mae'r gynhadledd yn rhan o gynllun Camu i Fyny Prifysgol Caerdydd, i annog pobl ifanc o bob cefndir i ystyried astudio yn y brifysgol. Mae'r gynhadledd flynyddol yn helpu i feithrin talent ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feddygon yng Nghymru. 

Dyma'r 15fed blwyddyn i MedWales gael ei gynnal, ac mae wedi gweld cynifer â 3,000 o fyfyrwyr chweched dosbarth a choleg yn cael profiad o'r hyn sy'n gysylltiedig â gradd mewn meddygaeth.  Yn wahanol i ddigwyddiadau eraill, mae mynediad yn rhad ac am ddim, a rhoddir gwybodaeth ynglŷn â gwneud cais i'r Ysgol Meddygaeth, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu datganiadau personol a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. Roedd myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn cael gwybod am y cyfleoedd i astudio rhywfaint o'u cyrsiau gradd drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. 

Drwy amrywiaeth o weithdai sgiliau clinigol a llawfeddygol ymarferol, gan gynnwys enghraifft o lawdriniaeth twll clo, roedd y gynhadledd yn rhoi blas go iawn ar fywyd fel myfyriwr meddygol.  Cafodd y rhai a aeth i'r gynhadledd gyfle i gwrdd â myfyrwyr presennol hefyd, yn ogystal â graddedigion sydd bellach yn gweithio ym myd amrywiol meddygaeth.    Roedd cyfle i rieni a gwarcheidwaid gael rhagor o wybodaeth am yr ystyriaethau ariannol sy'n gysylltiedig ag astudio meddygaeth hefyd, a holi panel o fyfyrwyr am eu profiadau yng Nghaerdydd.

Dywedodd y meddyg iau Katerina Walach, o Rymni, sydd wedi bod mewn cynhadledd MedWales yn y gorffennol: "Y cynllun Camu i Fyny oedd yn gyfrifol am fy nghyffroi ynglŷn â mynd i'r brifysgol, ac fe'm cynorthwyodd i baratoi ar gyfer astudio Meddygaeth. Ymunais â'r cynllun pan oeddwn yn 17, ac roeddwn wrth fy modd yn mynd i'r digwyddiadau amrywiol, o MedWales, i'r Ysgol Haf, Diwrnodau Agored a Sioeau Teithiol...bum ym mhob un ohonynt! Fe wnaeth y profiad hwn agor fy llygaid i'r gofynion sy'n gysylltiedig â dilyn cwrs prifysgol, gan wneud y cysylltiadau angenrheidiol ar hyd y ffordd, a chael profiadau ymarferol, go iawn, na fyddwn wedi eu cael yn unman arall"

Wrth siarad cyn y gynhadledd, dywedodd yr Athro David Wilson, Cadeirydd Grŵp Derbyn Myfyrwyr Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Gall gradd mewn meddygaeth arwain at yrfa gyfoethog a gwerthfawr, boed yn gweithio ar lawr gwlad, yn y gymuned neu ym maes ymchwil feddygol arloesol. Ni waeth a ydynt am fod yn llawfeddygon yn Abertawe, yn feddygon teulu yng Nghymru wledig, neu'n ymchwilwyr meddygol, rwy'n gobeithio y bydd y digwyddiad penwythnos hwn yn ysbrydoli myfyrwyr o bob cwr o Gymru i ystyried yr amrywiaeth o sgiliau y gallant eu hennill yn sgîl astudio meddygaeth eu darparu, ac i sylweddoli faint o gyfleoedd cyffrous sydd ar gael wrth hyfforddi a gweithio yng Nghymru.

Rhannu’r stori hon