Ewch i’r prif gynnwys

Gemau cyfrifiadurol i frwydro yn erbyn clefyd Huntingdon

2 Mawrth 2016

images of brain as scanned by MRI machine

Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i gyflwyno eu gwaith i'r Senedd

Mae gwyddonydd sy'n cynnal ymchwil lle defnyddir gemau cyfrifiadurol i 'hyfforddi'r ymennydd' a gwella'r sut mae pobl â chlefyd Huntingdon yn meddwl ac yn symud, am gyflwyno ei gwaith i'r Senedd.

Mae gan tua 12,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr glefyd Huntingdon. Mae'n gwaethygu dros amser a gall effeithio ar symudiad, gwybyddiaeth ac ymddygiad. Nid oes modd gwella'r clefyd. Os oes gennych y cyflwr, mae 50% o bosibilrwydd y byddwch yn ei drosglwyddo i'ch plant.

Yn rhan o gystadleuaeth SET for Britain, bydd Dr Emma Yhnell, sy'n 25 oed ac yn gydymaith ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, yn mynd i'r Senedd i gyflwyno ei dull newydd o frwydro yn erbyn y cyflwr i amrywiaeth o wleidyddion ac arbenigwyr ddydd Llun, 7 Mawrth.

Bydd ei hymchwil am ddefnyddio gemau cyfrifiadurol i 'hyfforddi'r ymennydd' sydd â chlefyd Huntington yn cael ei chymharu â dwsinau o brosiectau ymchwil gwyddonwyr eraill yn yr unig gystadleuaeth genedlaethol o'i math.

Anhwylder etifeddol o'r ymennydd a'r system nerfol ganolog yw clefyd Huntingdon ac mae'n effeithio ar hwyliau a'r gallu i feddwl a symud. Drwy 'hyfforddi'r ymennydd' gyda gemau cyfrifiadurol a ddyluniwyd yn arbennig, mae Emma yn gobeithio y bydd pobl sydd â chlefyd Huntingdon yn gallu gwella eu sgiliau meddwl neu hyd yn oed adfer rhywfaint o'u symudiad cyhyrol.

Ymhlith y cannoedd o geisiadau a gyflwynwyd, cafodd gwaith Dr Yhnell ei roi ar y rhestr fer i wneud cyflwyniad yn y Senedd.

Wrth sôn am gyflwyno ei hymchwil yn y Senedd, dywedodd, "Cyflwynais gais i gymryd rhan yn SET for Britain gan fy mod wrth fy modd yn cyfathrebu gwyddoniaeth ac ymchwil i'r cyhoedd mewn ffyrdd hwyliog, diddorol a llawn dychymyg. Go brin bod lle gwell na'r Senedd i sôn am wyddoniaeth ac ymchwil!

"Er mai chlefyd Huntingdon sy'n cael y prif sylw yn fy ymchwil, gall defnyddio gemau i hyfforddi'r ymennydd fod o gymorth gyda chlefydau eraill hefyd, yn ogystal ag i bobl iach sydd am gadw eu hymennydd yn heini ac yn iach.  Gyda lwc, caf y cyfle i sôn am fy ymchwil wrth amrywiaeth o bobl a'u hannog i roi cynnig ar y gemau hyfforddi'r ymennydd."

Dywedodd Stephen Metcalfe AS, Cadeirydd y Pwyllgor Gwyddonol a Seneddol:

"Mae'r gystadleuaeth flynyddol hon yn ddyddiad pwysig yn y calendr seneddol gan ei bod yn rhoi cyfle i ASau siarad ag amrywiaeth eang o ymchwilwyr ifanc gorau'r wlad.

"Y cywion beirianwyr, mathemategwyr a gwyddonwyr hyn yw penseiri'r dyfodol, a SET for Britain yw cyfle gorau'r gwleidyddion i gwrdd â nhw a deall eu gwaith.

Bydd ymchwil Dr Yhnell yn cael ei hasesu yn sesiwn Gwyddorau Biolegol a Biofeddygol y gystadleuaeth. Daw'r sesiwn i ben gyda seremoni lle cyflwynir gwobrau aur, arian ac efydd.

Mae rhai o'r enwogion sydd â chlefyd Huntington yn cynnwys y rhwyfwr Sarah Winckless sydd wedi ennill medal yn y Gemau Olympaidd; gohebydd rhyfel NBC, Charles Sabine; a'r cerddor gwerin diweddar, Woody Guthrie.

Academyddion blaenllaw fydd beirniaid y gystadleuaeth, a bydd enillydd y fedal aur yn cael £3,000, enillydd y fedal arian yn cael £2,000, ac enillydd y fedal efydd yn cael £1,000.

Bydd ymchwilwyr eraill o'r Brifysgol hefyd yn cyflwyno eu gwaith i'r Senedd.

Mae Lorena Hidalgo San Jose, myfyriwr PhD yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, yn datblygu microgapsiwlau sy'n cynnwys bôn-gelloedd. Ei nod yn y pen draw yw rhoi'r celloedd hyn ym madruddyn cefn cleifion sy'n dioddef o barlys.

Mae bôn-gelloedd bonyn yn gallu trawsnewid i unrhyw fath o gell. Felly, gallant gael eu defnyddio i adnewyddu meinweoedd sydd wedi'u difrodi ac i drin amrywiaeth o afiechydon gan gynnwys diabetes a chlefyd y galon.

Drwy amgáu'r celloedd yn strwythurau bychain cyn eu mewnblannu, mae'n lleihau'r perygl y bydd system imiwnedd y claf yn gwrthod y bôn-gelloedd. Ar yr un pryd, mae'n galluogi'r ymarferydd i reoli sut mae'r celloedd yn ymledu, yn symud, yn integreiddio ac yn gwahanredu.

Mae tua 50,000 o bobl yn dioddef o barlys yn y DU ac Iwerddon, ac nid oes unrhyw driniaethau effeithiol ar gael ar hyn o bryd.

Mae Dr Heungjae Choi, o'r Ysgol Peirianneg, yn ymchwilio i ffyrdd y gallai pobl sydd â diabetes fonitro lefelau glwcos eu gwaed, heb gael sampl o'u gwaed.

Nod Dr Choi yw datblygu synhwyrydd anymwthiol a allai edrych ar y rhyngweithio rhwng tonnau electromagneteg pŵer isel sydd ar y croen, a'r hylifau mewn corff dynol.

Ar hyn o bryd, mae gan bedwar miliwn o bobl yn y DU ddiabetes, ac mae amcangyfrifon cyfredol yn awgrymu y bydd miliwn yn rhagor o bobl yn datblygu'r clefyd erbyn 2025.

Mae'r Pwyllgor Gwyddonol a Seneddol yn cynnal y digwyddiad gyda'r Gymdeithas Bioleg Frenhinol, yr Academi Peirianneg Frenhinol, y Gymdeithas Cemeg Frenhinol, y Sefydliad Ffiseg, y Gymdeithas Ffisiolegol a Chyngor y Gwyddorau Mathemategol. Mae Essar, Sefydliad Mathemateg Clay, Grŵp Gweithgynhyrchu Warwick (WMG), Sefydliad y Gwyddorau Biofeddygol, Banc Lloegr a Chymdeithas y Diwydiant Cemegol hefyd wedi cefnogi'r digwyddiad yn ariannol.

Rhannu’r stori hon