Ewch i’r prif gynnwys

Dros 300 o staff Prifysgol Caerdydd yn gwirfoddoli yn ystod yr argyfwng COVID19

6 Ebrill 2020

Two volunteers sat in the teaching labs in School of Biosciences

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi gwirfoddoli eu sgiliau a'u cyfleusterau gwyddonol blaenllaw i helpu yn y rheng flaen yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Mae dros 300 o wyddonwyr yn rhoi o'u hamser a'u harbenigedd i baratoi pecynnau diagnostig ar gyfer cleifion yng Nghymru, er mwyn ysgafnhau'r pwysau ar staff yr ysbyty Mae tîm o wirfoddolwyr o bob rhan o’r disgyblaethau gwyddonol ym Mhrifysgol Caerdydd yn defnyddio eu labordai yn ystod cyfnod dan glo’r DU gyfan i ddarparu'r amgylcheddau di-haint sydd eu hangen i ddatblygu profion COVID19.

Daeth yr alwad am wirfoddolwyr o Ysgol y Biowyddorau, wrth i dîm o ymchwilwyr benderfynu llunio rhwydwaith o staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a fyddai'n barod ac yn alluog i helpu ym mha ffordd bynnag y gallent.

Dywedodd Eider Valle-Encinas, un o fyfyrwyr PhD Ysgol y Biowyddorau sy'n arwain y gwaith hwn: "Ar 21 Mawrth, aethom ati i alw am wyddonwyr o'r Brifysgol i roi o'u hamser i wirfoddoli yn ystod yr argyfwng hwn. Roedd yr ymateb yn wirioneddol ragorol. Erbyn Mawrth 25, roedd gennym dros gant o wirfoddolwyr o wahanol Ysgolion ar draws y Brifysgol.

"Hyd yma, mae tua 300 o wirfoddolwyr yn cyfrannu o’u harbenigedd i helpu i leddfu'r pwysau ar weithwyr gofal iechyd yng Nghymru. Mae ein tîm o wirfoddolwyr yn dod yn bennaf o Ysgol y Biowyddorau, yr Ysgol Meddygaeth a’r Ysgol Fferylliaeth - ond mae aelodau o'r Ysgol Seicoleg, Ysgol Cemeg a'r Ysgol Ddeintyddiaeth wedi cofrestru hefyd i wirfoddoli drwy ddefnyddio ffurflen ar-lein.

"Rydym yn defnyddio system paru gwirfoddolwyr i ddod o hyd i'r gwirfoddolwyr gorau ar gyfer tasgau penodol i helpu'r GIG yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn. Mae ein tasg gyntaf wedi cynnwys paratoi'r cemegau ar gyfer gwaith diagnosteg COVID19. Byddwn yn paratoi'r adweithyddion sydd eu hangen, yna mae'r rhain yn cael eu hanfon gyda negesydd i Ysbyty Prifysgol Cymru yn y Mynydd Bychan i'w defnyddio yn eu hunedau ynysu.

"Mae'r ymateb i'n galwad-i-weithredu wedi bod yn wirioneddol wych ac yn twymo'r galon Mae'r ymchwilwyr yn y Brifysgol mor awyddus i helpu ac i gymryd rhan mewn unrhyw ffordd y gallant."

Mae labordai ar draws y Brifysgol yn cael eu defnyddio yn ystod yr argyfwng hwn. Mae Ysgol y Biowyddorau yn gartref i gyfleusterau ymchwil blaengar sy'n arwain y byd, ac mae gan ei labordai addysgu y lwfrau di-haint sydd eu hangen i baratoi'r cemegau ar gyfer y pecynnau i brofi am COVID19. Er bod gweithdrefnau cyfnod dan glo’r Ysgol ar waith, bydd gwyddonwyr yn gallu gweithio o dan amodau diogelwch caeth.

Dywedodd Dr Sarah Koushyar, sy’n ymchwilydd ôl-ddoethuriaeth yn Sefydliad Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ac yn wirfoddolwr: "Yn y cyfnod ansicr hwn, rydyn ni i gyd yn teimlo braidd yn ddiymadferth ac roeddwn i eisiau gallu cyfrannu mewn rhyw ffordd. Ymchwilwyr canser ydyn ni fel arfer, ond yn ystod yr achos hwn o coronafeirws, mae nifer o staff o'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gwirfoddoli eu sgiliau i helpu yn yr argyfwng hwn.

"Rydym yn gweithio o dan brotocolau diogelwch a phellterau cymdeithasol llym i droi'r labordai addysgu o fewn ysgol y biowyddorau yn ardaloedd paratoi ar gyfer pecynnau profi coronafeirws.

Mae'n fraint imi fod yn cyfrannu fy arbenigedd gwyddonol i helpu mewn unrhyw ffordd yn ystod yr argyfwng byd-eang hwn.”

Rhannu’r stori hon