Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr I ganser yn gwirfoddoli i gynorthwyo gyda phrofi am COVID19

6 Ebrill 2020

ECSCRI laboratory

Mae ymchwilwyr i Ganser ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gwirfoddoli eu sgiliau i helpu yn y rheng flaen yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Mae gwyddonwyr yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd yn helpu i baratoi pecynnau diagnostig i gleifion yng Nghymru, er mwyn ysgafnhau'r pwysau ar staff yr ysbyty. Mae tîm o wirfoddolwyr o'r Sefydliad, ynghyd â chydweithwyr yn Ysgol y Biowyddorau, yn defnyddio eu labordai yn ystod y cyfnod dan glo ar draws y DU.

Dywedodd Dr Sarah Koushyar, ymchwilydd ôl-ddoethuriaeth yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewrop a'r gwirfoddolwr: "Yn y cyfnod ansicr hwn, rydyn ni i gyd yn teimlo braidd yn ddiymadferth ac roeddwn i eisiau gallu cyfrannu mewn rhyw ffordd. Mae staff yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd wedi gwirfoddoli eu sgiliau i helpu i baratoi gwaith diagnosteg ar gyfer COVID-19 i Ysbyty Athrofaol Cymru.

"Mae nifer o’n gwyddonwyr yn gweithio o dan brotocolau diogelwch a phellterau cymdeithasol llym i droi'r labordai addysgu o fewn Ysgol y Biowyddorau yn ardaloedd paratoi. Byddwn yn addasu'r cyfryngau a'r cemegau sydd eu hangen ym maes diagnosteg coronafeirws, wedyn bydd y rhain yn cael eu cludo i'r ysbyty i'w defnyddio wrth brofi a thrin cleifion."

Mae Ysgol y Biowyddorau yn gartref i ymchwil a chyfleusterau arloesol sy'n arwain y byd. Mae gan y labordai addysgu’r cyflau mwg di-haint sydd eu hangen i baratoi’r cemegau ar gyfer pecynnau profi COVID-19 Er bod gweithdrefnau cyfnod dan glo’r Ysgol ar waith, bydd gwyddonwyr yn gallu gweithio o dan amodau diogelwch caeth.

Dywedodd Matt Smalley, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd: "Rwyf bob amser yn teimlo'n freintiedig mai fi yw Cyfarwyddwr y Sefydliad, gan ein bod yn dîm o wyddonwyr ymroddedig, sy’n cydweithio i ddeall bôn-gelloedd canser a'u rôl mewn canser. Ond rwy'n teimlo'n arbennig o falch o weithio gyda gwyddonwyr rhagorol o'r fath yn ystod y cyfnod cythryblus hwn. Yn y cyfnod digynsail ac ansicr hwn, maent wedi dangos eu penderfyniad a’u hawydd trawiadol i gynorthwyo cymaint â phosibl yn ystod y pandemig COVID-19."

Ymhlith y gwyddonwyr sy'n gwirfoddoli y mae Dr Sarah Koushyar, Dr Carlotta Olivero ac Alex Gibbs.

Rhannu’r stori hon