Ewch i’r prif gynnwys

Sut mae pobl yn defnyddio ynni a pham mae hynny'n bwysig

26 February 2016

pylons

Prosiect yn dangos pa mor heriol yw ceisio newid ein harferion

Newid yn yr hinsawdd, biliau tanwydd cynyddol, ynni adnewyddadwy... rydym ni i gyd wedi darllen y penawdau ac yn gwybod y dylem ddefnyddio llai o ynni. Mae llunwyr polisi yn gwybod hyn hefyd, ac o'r herwydd, maent wedi gosod nod allweddol i leihau'r galw am ynni.

Mae darganfod sut mae pobl yn defnyddio ynni heddiw yn hollbwysig wrth ddeall sut gellir cyflawni'r nod hwnnw, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Mae'r prosiect Bywgraffiadau Ynni, a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, wedi defnyddio dull newydd i ddeall sut mae pobl yn defnyddio ynni, a pham. Mae'r ymchwilwyr yn credu mai dyma'r allwedd i drawsnewid sut caiff ynni ei greu a'i ddefnyddio mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Dywedodd Yr Athro Karen Henwood, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Mae'r sgyrsiau pwysicaf am bolisïau sy'n ymwneud â'r galw am ynni a'r defnydd ohono wedi tueddu i ystyried dewis unigol fel yr hyn sy'n ysgogi newid cymdeithasol, a thechnolegau newydd, megis mesuryddion clyfar, fel ffordd o alluogi unigolion i wneud dewisiadau gwell. Ond beth nad yw'r dull hwn yn gallu ei ystyried yw sut mae pobl yn defnyddio ynni a sut mae eu galw am ynni yn newid drwy gydol eu bywydau."

I ystyried y ffactor hollbwysig hwn, cynhaliodd ymchwilwyr y prosiect gyfweliadau bywgraffyddol ar bedwar safle achos: Trelái a Chaerau, ward yng nghanol dinas Caerdydd; Llanbedr-y-Fro, pentref cymudo llewyrchus ar gyrion Caerdydd; Lammas/Tir-y-Gafael, pentref ecogyfeillgar yng ngorllewin Cymru; a'r Royal Free Hospital, ysbyty athrofaol fawr yn Llundain.

Mae canfyddiadau'r prosiect yn cynnig amrywiaeth o syniadau arwyddocaol sy'n berthnasol i bolisi ar gyfer ymarferwyr sy'n gweithio o fewn sefydliadau, yn ogystal ag o fewn llywodraethau lleol, datganoledig a chenedlaethol.

Mae'r darlun a ddaw i'r amlwg yn sgîl yr astudiaeth yn dangos nad yw gofyn i bobl ddefnyddio llai o ynni, hyd yn oed gan roi cymhellion ariannol iddynt wneud hynny, yn dasg syml.

Mae dull bywgraffyddol y tîm yn dangos bod technolegau a dyfeisiau yn rhan annatod o'n bywydau, ac nid ydym yn meddwl amdanynt o ran eu swyddogaethau yn unig mwyach. Yn hytrach, mae arwyddocâd emosiynol iddynt.

Caiff ynni ei ddefnyddio wrth ddefnyddio Skype ar ffonau clyfar i gysylltu â ffrindiau sy'n byw yn bell, wrth yrru i'r gwaith am nad ydych yn byw ger cysylltiadau trafnidiaeth, ac wrth gynyddu eich biliau gwresogi pan mae aelod hŷn o'r teulu, sy'n sâl, yn symud i mewn.

Pe bai defnyddio llai o ynni yn cynyddu'r posibilrwydd o golli cysylltiadau emosiynol arwyddocaol, gallai pobl fod yn fwy tebygol o wrthod newid eu ffordd. Gallai hyn fod yn arbennig o wir lle mae'r arferion wedi helpu unigolion i ymdopi â newidiadau anodd yn eu bywydau.

Dywedodd yr Athro Henwood: "Mae'r ffyrdd yr ydym yn defnyddio ynni yn cryfhau cysylltiadau emosiynol. Maent hefyd yn llunio ein hunaniaeth a beth mae 'bywyd gwerth chweil' yn ei olygu i ni. Mae rhai arferion yr honnir eu bod yn wastraffus yn cael eu hystyried yn rhan o greu 'bywyd gwerth chweil', er enghraifft symud tŷ neu newid swydd fel rhan o'r daith tuag at gyrraedd ansawdd bywyd penodol.

"Mae mentrau polisi pellach nad ydynt yn cydnabod y dylanwadau bywgraffyddol ar sut mae pobl yn defnyddio ynni, a pham, yn llai tebygol o lwyddo."

Mae'r prosiect hefyd yn gwneud cyfraniad gwreiddiol at ymchwil drwy ganolbwyntio ar nodweddion graddol, cronnus, y cyfnodau pontio arferol mewn bywyd, yn groes i'r syniad bod yn rhaid i ymyriadau amserol gyd-fynd ag adegau - megis dod yn rhiant - pan mae bywyd yn newid yn sylweddol ac mae'r drefn feunyddiol eisoes wedi'i chwalu. Gellir gweld neu lawrlwytho adroddiad terfynol y prosiect o wefan y Bywgraffiadau Ynni.

Mae'n amlinellu'r canfyddiadau allweddol, yr argymhellion polisi, a sut mae'r prosiect wedi cyfrannu at ysgolheictod sylweddol ar ddeinameg y galw am ynni ac at ddatblygu methodolegol.

Rhannu’r stori hon