Ewch i’r prif gynnwys

Taflegrau anghymesur

8 Chwefror 2016

Skeleton Blue

Canlyniadau annisgwyl wrth edrych mewn manylder nanosgopig ar ran o'r system imiwnedd sy'n tyllu i facteria ymledol ac yn eu hollti

Mae cymhlygion ymosod y bilen (MACs) yn strwythurau a wnaed o broteinau sy'n ymgynnull yn y corff pan ganfyddir haint. Maent yn glynu wrth bilenni bacteria ymledol, megis llid yr ymennydd, ac yn creu twll ynddynt.

Yn y pen draw, os bydd digon o MACs yn creu twll yn y bilen, bydd y bacteria'n hollti ac yn marw. Mae MACs o ddiddordeb arbennig mewn ymchwil canser, oherwydd gall rhai celloedd canser eu hosgoi.

Yn yr astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Nature Communications, bu ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Choleg Imperial Llundain yn edrych ar y MAC gan ddefnyddio microsgopeg cryo-electron. Mae'r dechneg hon, sy'n datblygu'n gyflym, yn gallu edrych ar strwythurau protein cymhleth ar gydraniad manylach na nanometr – un rhan o biliwn o fetr.

Cafwyd canlyniadau annisgwyl wrth wneud hyn. Yn hytrach na bod yn gylch cymesur caeëdig o broteinau, sydd i'w gweld fel arfer drwy edrych ar strwythurau protein tebyg, datgelwyd bod gan y MAC siâp cylch â hollt ynddo, gan arwain at anghymesuredd.

Dywedodd Paul Morgan, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau'r Brifysgol ac arweinydd y prosiect yng Nghaerdydd: "Mae'r strwythur newydd hwn yn gweddnewid ein dealltwriaeth o sut mae'r MAC yn ffurfio, ac yn agor meysydd newydd ar gyfer ymchwilio i sut mae'n gweithio - yn enwedig sut mae'n cysylltu â llwybrau signal i ysgogi celloedd. Dyna bwnc mae fy ngrŵp wedi bod yn ymchwilio iddo ers dros ddeng mlynedd ar hugain!"

"Pan fydd y cylch yn hollti ac yn anghymesur, nid yw'r MAC yn tyllu'n llwyr i bilen y bacteria," dywedodd cydawdur yr astudiaeth, Dr Doryen Bubeck o Adran y Gwyddorau Bywyd yn y Coleg Imperial.

"Mae hyn yn arwain at gyfres newydd sbon o gwestiynau am ei swyddogaeth. A yw'n synhwyro rhywbeth am y bilen? A yw'n rhoi signal i broteinau eraill?"

Rhannu’r stori hon