Ewch i’r prif gynnwys

Bil Cymru Drafft

29 Ionawr 2016

Senedd CB

Adolygiad annibynnol yn argymell y dylai gwleidyddion ddweud "na" oni bai y gwneir newidiadau pwysig

Mae adroddiad gan grŵp adolygu annibynnol sy'n cynnwys arbenigwyr cyfansoddiadol a deddfwriaethol yn dweud na allant argymell i wleidyddion ym Mae Caerdydd a San Steffan gefnogi'r Bil Cymru Drafft ar ei ffurf bresennol.

Comisiynwyd yr adroddiad arloesol "Her a Chyfle: Bil Cymru Drafft 2015", gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a'r Uned Cyfansoddiad yng Ngholeg Prifysgol Llundain.  Mae'n rhoi sylwebaeth arbenigol ar y gofynion manwl yn nrafft Bil Cymru a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2015, ac yn eu hasesu.

Gwnaed y pwyntiau canlynol gan y grŵp adolygu annibynnol yn yr adroddiad:

-          Mae'r dull 'cadw pwerau' yn cynnig llawer o fanteision i Gymru ac i'r DU gyfan os caiff ei weithredu'n iawn.  Nid dyna yw'r achos gyda'r Bil Cymru Drafft.  Os caiff ei weithredu'n wael, bydd y dull cadw pwerau yn arwain at drefniant byrhoedlog arall sy'n aneffeithiol. 

-          I fod yn barhaol ac yn effeithiol, mae angen i Ddeddf Cymru newydd fod yn seiliedig ar egwyddorion clir sy'n sicrhau pecyn datganoli cydlynol a chyson i Gymru.  Gan nad dyna'r achos, nid yw'n syndod nad yw'r Bil wedi denu llawer o gefnogaeth, er nad yw wedi bod ar gael i'w ystyried yn hir. 

-          Mae'r rhestr o gymalau cadw yn y Bil drafft yn dangos diffyg dull cydlynol gan Whitehall. Mae'r cymalau cadw yn gymhleth iawn ar y cyfan, ac mae rhai ohonynt wedi'u dylunio i amddiffyn buddiannau adrannau Whitehall yn hytrach na darparu set gydlynol a chyson o bwerau datganoledig.  Bydd eu cymhlethdod yn llesteirio llunwyr polisi ac yn tanseilio cadernid y setliad. 

-          Mae'r ddibyniaeth ar brofion i weld pa mor 'angenrheidiol' yw deddfwriaeth sy'n effeithio ar gyfraith breifat neu droseddol yn rhy feichus o lawer. Mae'r profion hyn yn ychwanegu at y cymhlethdod a'r ansicrwydd, a bydd yn ysgogi pobl i herio'n gyfreithiol, gan mai barnwyr, yn hytrach na chynrychiolwyr etholedig, fyddai'n gwneud penderfyniadau ynghylch p'un a oes angen deddfwriaeth Gymraeg ai peidio. 

-          Mae cwestiynau cymhleth am y berthynas gyfreithiol rhwng Cymru a Lloegr yn codi o'r pwerau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod 'cadw pwerau' yn effeithiol.  Byddai cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru yn un ateb i'r materion hyn.  Mae dull 'seiliedig ar reolau' o reoli gwahaniaethau cyfreithiol yn ateb arall. 

Wrth sôn am yr anawsterau o ran y Bil Cymru Drafft, dywedodd yr Athro Richard Rawlings o Goleg Prifysgol Llundain, a helpodd i ddrafftio'r adroddiad: "Mae Cymru wedi profi tri setliad datganoli problematig iawn ers 1999. Roedd pawb yn mawr obeithio y byddai'r cytundeb holl-bleidiol y dylai Cymru symud i fodel datganoli sy'n 'cadw pwerau', yn arwydd o ddechrau proses a fyddai'n arwain at ddatganoli Cymru ar sail gyfansoddiadol gynaliadwy.

"Nid yw'r Bil Cymru Drafft yn gwneud yr hyn a addawyd. Yn rhy aml o lawer, mae amcanion polisi manwl yr Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau setliad datganoli cryfach, cliriach, tecach a mwy cadarn yn cael eu rhwystro gan ofynion cyfyngol, trwsgl, ac annheg, nad ydynt yn ystyried y goblygiadau pellgyrhaeddol yn gyfansoddiadol. Mae'r sefydliadau datganoledig yn cael eu cyfyngu mewn tair ffordd; y cyfyngiad cyffredinol sy'n ymyrryd â'u gwaith, y ffaith bod gormod o randdeiliaid yn gysylltiedig â materion deddfwriaethol, a'r diffyg eglurdeb o ran feto gweithredol. Dyma sydd wrth wraidd yr anhawster. Nid oes rhaid i bethau fod fel hyn."

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen am newidiadau sylfaenol yn y ddeddfwriaeth arfaethedig, ac yn nodi cyfres o gynigion ar gyfer ail-greu'r ddeddfwriaeth, er mwyn cyflwyno model datganoli i Gymru sy'n cadw pwerau ac sydd wedi'i gyfansoddi'n briodol.

Mae'r adroddiad yn esbonio sut mae dulliau eraill o weithredu'r ddeddfwriaeth, sy'n seiliedig ar reolau tiriogaethol neu awdurdodaeth unigryw ond nid ar wahân i Gymru, yn cynnig ffyrdd o ddarparu'r gofod i ganiatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu'n effeithiol.

Wrth sôn am y camau nesaf ar gyfer y Bil Cymru Drafft, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym yn credu y dylid atal y broses ddeddfwriaethol ynghylch y Bil Cymru Drafft, er mwyn i'r holl randdeiliaid ystyried y materion hyn yn llawn, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder."

Rhannu’r stori hon