Ewch i’r prif gynnwys

'Hacathon' y GIG yn dychwelyd i Gaerdydd

28 Ionawr 2016

Nurses on long table

Bydd y rheini sy'n ymgolli'n llwyr mewn materion arloesedd yn dod ynghyd ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer 'Diwrnod Hacio' mwyaf erioed y GIG

Bydd y digwyddiad yn dod â phobl sydd â sgiliau ac arbenigeddau gwahanol ynghyd - o dechnoleg gofal iechyd i raglennu a data - i drafod syniadau sy'n gwthio arloesedd ar draws y GIG.

Dyma fydd y trydydd tro i Gaerdydd gynnal digwyddiad blynyddol Hacio’r GIG, ac eleni, mae 200 o ‘hacwyr’ wedi cofrestru.

Dywedodd yr Athro James Morgan, Athro Offthalmoleg Canolfan Gwyddorau'r Golwg Prifysgol Caerdydd: "Mae Diwrnodau Hacio'r GIG yn ddigwyddiadau dros y penwythnos sy'n dwyn ynghyd meddygon, nyrsys, datblygwyr, dylunwyr, cleifion, gofalwyr a phobl eraill sy'n frwdfrydig dros y GIG, i greu atebion gwahanol ar gyfer materion iechyd a gofal cymdeithasol.

"Drwy rannu ein syniadau a'n dadansoddiadau, gall y rheini sy'n gweithio gyda thechnoleg gofal iechyd feddwl am ffyrdd arloesol o wella bywyd cleifion, y cyhoedd a'r GIG."

Mae'r Diwrnod Hacio yn brawf o bwyslais cynyddol Prifysgol Caerdydd ar arloesedd, gan droi ymchwil, syniadau ac arbenigedd yn atebion 'go iawn'.

Ar hyn o bryd, mae'r Brifysgol yn buddsoddi mewn Campws Arloesedd newydd gwerth £300m, gan gynnwys mannau ar gyfer arloesedd clinigol ar gampws Parc y Mynydd Bychan. Mae Ysgolion yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd yn y Brifysgol eisoes yn cydweithio'n agos â'r GIG ar ystod o bartneriaethau arloesol, gan gynnwys Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd, fydd yn agor yn yr haf, a Chanolfan Arloesedd Clwyfau Cymru. 

Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer Diwrnod Darnia y GIG y penwythnos hwn

Rhannu’r stori hon