Dyfodiad sganiwr ymennydd mwyaf pwerus Ewrop
18 Ionawr 2016
Bydd sganiwr gwerth £4M yn dangos delweddau o'r ymennydd dynol sy'n fanylach nag erioed o'r blaen
Mae sganiwr MRI mwyaf pwerus Ewrop wedi cyrraedd. Bydd y sganiwr hwn yn galluogi gwyddonwyr i weld delweddau o'r ymennydd dynol sy'n fanylach nag erioed o'r blaen.
Ddydd Sul (17 Ionawr, 2016), symudwyd y sganiwr MRI sydd wedi'i addasu'n arbennig, y cyntaf o'i fath yn Ewrop a dim ond yr ail o'i fath yn y byd, i Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), canolfan newydd werth £44m ar Heol Maendy.
"Mae dyfodiad y sganiwr hwn yn garreg filltir sylweddol yn y gwaith o adeiladu ein canolfan ymchwil newydd gwerth £44m, a bydd yn sicr o roi Prifysgol Caerdydd a Chymru ar y map o ran niwroddelweddu," meddai'r Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr CUBRIC.
"I roi gallu'r sganiwr newydd mewn rhyw fath o gyd-destun, mae llinyn gwallt dynol yn amrywio mewn diamedr o 17 micron i 180 micron. Bydd y sganiwr newydd hwn yn ein galluogi i gael gwybodaeth am strwythur y meinweoedd yn yr ymennydd ar hyd o filfed rhan o filimetr neu un micron."
Pan fydd y sganiwr yn barod i'w ddefnyddio, bydd yn rhoi delweddau heb eu hail i wyddonwyr, o gyfansoddiad micro-strwythurol meinweoedd.
Mae gwyddonwyr yn gwybod y gall dwysedd ffibrau nerfau, a'u diamedr, ddylanwadu ar allu'r ymennydd i gario gwybodaeth. Gan fod yr ymennydd yn gweithredu fel rhwydwaith, mae deall gwahaniaethau unigol yn 'ansawdd' y cysylltiadau hynny yn dod yn fwyfwy pwysig.
Bydd y sganiwr newydd yn helpu gwyddonwyr i ddeall y gwahaniaethau unigol hyn yn well.
Er enghraifft, mewn cyflyrau sy'n datblygu, fel sgitsoffrenia, mae'n bosibl nad yw rhai cysylltiadau byth yn ffurfio, neu mewn cyflyrau niwro-ddirywiol, fel clefyd Alzheimer, dirywiad y cysylltiadau sy'n arwain at ddirywiad swyddogaeth yr ymennydd.
Ychwanegodd yr Athro Jones: "Y gyfatebiaeth orau yw meddwl am delesgop.
"Pe baech yn edrych ar yr awyr drwy delesgop â phŵer gwan, mae signalau'r sêr sy'n agos at ei gilydd yn troi'n un, felly dim ond un signal aneglur a welwch.
"Fodd bynnag, pe baech yn cynyddu pŵer y telesgop, gallwn ddechrau gwahanu signalau gwrthrychau sydd gerllaw, a chael darlun llawer gwell.
"Bydd y sganiwr newydd hwn yn ein galluogi i sefydlu darlun llawer gwell o gyfansoddiad yr ymennydd. Yn y pen draw, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i ddarparu targedau newydd ar gyfer triniaeth, a gofal iechyd gwell i bobl sy'n dioddef o salwch meddwl."
Ariennir y sganiwr newydd gan grant o £3m gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) a £1m gan Sefydliad Wolfson. Bydd yn helpu i sefydlu Caerdydd fel cyfleuster Delweddu Micro-strwythurol Cenedlaethol.
Mae cyfleuster newydd CUBRIC, sydd werth £44, wedi cael cefnogaeth ariannol hael gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop, Cynghorau Ymchwil yn y DU ac Ewrop, Ymddiriedolaeth Wellcome a Sefydliad Wolfson.
Gyda'i gilydd, mae'r buddsoddiadau hyn yn cefnogi arloesedd mewn ymchwil o'r radd flaenaf i ddelweddu'r ymennydd, gan gynnwys creu swyddi ymchwil medrus iawn yng Nghymru.
Disgwylir i CUBRIC gael ei agor yn swyddogol yn ddiweddarach eleni.