Tryloywder mewn ymchwil
14 Ionawr 2016
Mae grŵp o
ymchwilwyr a arweinir gan Brifysgol Caerdydd yn ceisio chwyldroi ymchwil
wyddonol.
Heddiw, maent yn lansio 'Menter Bod yn Agored yr Adolygwyr Cymheiriaid' (PRO).
Eu nod yw ceisio gwella ansawdd ac effeithlonrwydd ymchwil wyddonol drwy
ledaenu arferion ymchwil agored a thryloyw.
Mewn papur sydd ar gael ar-lein heddiw, mae'r awduron yn canmol datblygiadau technolegol newydd sy'n hwyluso
ymchwil agored ac yn cyflymu cynnydd gwyddonol. Fodd bynnag, maent yn gresynu
mai 'prin' yw'r arferion ymchwil mewn sawl rhan o lenyddiaeth wyddonol.
Yn eu barn nhw, amharodrwydd tueddol llawer o ymchwilwyr i ddatgelu eu data a'u
dulliau sydd i'w gyfrif am hyn gan eu bod yn tybio mai'r rhai maent yn cystadlu
yn eu herbyn fydd yn elwa. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd eraill yr un mor
agored, felly byddai gwneud hynny yn eu rhoi o dan anfantais yn eu maes eu hun.
Mae'r awduron yn disgrifio hyn fel y 'cyfyng-gyngor cymdeithasol'. Yn eu barn
nhw, nid yw cadw data a dulliau iddyn nhw eu hunain yn golygu o reidrwydd bod
yr ymchwilwyr yn gwrthwynebu'r egwyddorion o fod yn agored – yn wir, mae'r
ymchwil y cyfeirir ati yn y papur yn gwrth-ddweud hyn.
Mae'r papur yn disgrifio sut mae angen cymhelliant. Mae'n cynnig strategaeth
newydd ar gyfer cyflawni hyn ac mae gan adolygwyr cymheiriaid rôl ganolog
ynddi.
Fel rhan o broses adolygiad gan gymheiriaid, mae'n awgrymu y gall adolygwyr roi
newid ar waith drwy fynnu y dylai'r egwyddor o fod yn agored gael ei ystyried
fel arfer yr un mor bwysig ag arferion ymchwil eraill.
Gwahoddir gwyddonwyr sy'n cefnogi'r syniad hwn i ymuno â Menter PRO; nodir mewn
datganiad y byddant, ar ôl 1 Ionawr 2017, yn dechrau arddel "rhai safonau
ymchwil agored a sylfaenol mewn cysylltiad â'r llawysgrifau y maent yn eu
hadolygu".
Mae'r safonau hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod data a deunyddiau ar gael yn
gyhoeddus; gwneud yn siŵr bod dogfennau sy'n cynnwys manylion ar gyfer dehongli
unrhyw ffeiliau neu gôd, hefyd ar gael; a bod pob ffeil yn cael ei hysbysebu yn
y papur ymchwil.
Hanfod y fenter yw'r syniad y gall adolygwyr ymgysylltu'n anuniongyrchol ag
awduron am faterion yn ymwneud â bod yn agored yn wyddonol drwy olygydd yn
ystod y broses adolygu. O safbwynt yr awduron, mae ganddynt hwythau wedyn yr
hawl i ymateb drwy gyfiawnhau neu gywiro.
Dim ond pan fydd yn ddigon agored, neu mae modd cyfiawnhau pam nad ydyw'n
agored, y gall y papur ymchwil barhau i gael ei adolygu gan gymheiriaid er mwyn
ei gyhoeddi.
Dywedodd y prif awdur, Dr Richard Morey o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd:
"Dylai gwyddoniaeth fod yn broses agored a thryloyw, ond anaml y mae
hynny'n digwydd. Yn aml, nid yw data a deunyddiau ar gael i wyddonwyr
eraill neu'r cyhoedd, gan olygu nad oes modd eu dyblygu na'u dilysu.
"Mae'r rhan fwyaf o atebion i'r broblem hon yn canolbwyntio ar newid
polisi, ond rydym yn cynnig dewis amgen ar lawr gwlad: Menter Bod yn Agored yr
Adolygwyr Cymheiriaid (PRO).
"O dan PRO, nid yw adolygwyr yn rhoi adolygiadau llawn oni bai bod papurau
yn rhannu data a deunyddiau, neu mae'r awduron yn gallu cyfiawnhau pam nad
ydynt yn eu rhannu.
"Y ffaith fod angen i bawb gydweithio yw hanfod y fenter: gan fod gwyddoniaeth
yn dibynnu ar adolygiadau, adolygwyr sydd â'r allwedd i wneud gwyddoniaeth yn
agored."
Anogir gwyddonwyr i ymuno â'r fenter sydd i'w gweld yma.