Ewch i’r prif gynnwys

Penodi Llysgennad o Brifysgol Caerdydd i Ddylanwadu ar Ddewisiadau Disgyblion

8 Ionawr 2016

Coleg Cymraeg student
Elen Davies, enillydd ysgoloriaeth o Brifysgol Caerdydd

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi llysgenhadon er mwyn ceisio annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i astudio trwy’r Gymraeg ar lefel addysg uwch.

Mae’r 14 llysgennad wedi’u lleoli mewn saith prifysgol ar hyd a lled Cymru gan gynnwys un ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd Elen Davies o Bencader, sy’n astudio gradd newydd Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn dechrau ar ei gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy’r flwyddyn.

Ei phrif rôl fydd ceisio dwyn perswâd ar ddisgyblion ysgol i ddilyn rhan o’u hastudiaethau prifysgol trwy’r Gymraeg a chyflwyno’r manteision a ddaw yn sgil hynny.

Bydd yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau yn ogystal ag yn cofnodi eu profiadau mewn blog newydd sbon.

Llais y Llysgennad yw enw’r blog sy’n rhoi darlun o fywyd myfyriwr cyfrwng Cymraeg ar ffurf lluniau, fideos a llawer mwy.

Elen oedd y cyntaf i gyfrannu i'r blog a gellir darllen ei chyfraniad yma.

Roedd Elen, dderbyniodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Dyffryn Teifi wrth ei bodd o gael cyfle i astudio trwy’r Gymraeg yn y brifddinas: ‘‘Rwy’n byw bob dydd yn Gymraeg, felly roeddwn yn benderfynol o achub ar y cyfle i astudio trwy’r iaith. Roeddwn hefyd yn ymwybodol bod galw am newyddiadurwyr Cymraeg eu hiaith felly bydd datblygu sgiliau dwyieithog o fudd wrth ymgeisio am swydd maes o law.’’

Mae Elen yn dymuno lleddfu unrhyw bryderon sydd gan ddisgyblion am fentro i fyd addysg uwch cyfrwng Cymraeg: ‘‘Mae digon o gymorth ar gael, a byddwch yn datblygu sgil arbenigol yn eich maes. Byddwch yn dod yn fwy hyderus yn y Gymraeg yn ogystal â chyfarfod pobl sy’n rhannu’r un brwdfrydedd tuag at yr iaith!’’

I ddysgu mwy am gyfleoedd cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ewch i wefan Cangen Caerdydd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Rhannu’r stori hon