Ewch i’r prif gynnwys

Genetegydd meddygol arloesol, yr Athro Meena Upadhyaya, yn cael OBE

5 Ionawr 2016

Professor Meena Upadhyaya
Professor Meena Upadhyaya

Mae rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2016 wedi cydnabod cyflawniadau genetegydd meddygol byd-enwog.

Mae'r Athro Meena Upadhyaya, sy'n gweithio yn Sefydliad Geneteg Canser Prifysgol Caerdydd, wedi cael OBE (Swyddog o Urdd Fwyaf Rhagorol yr Ymerodraeth Brydeinig) am wasanaethau i 'Eneteg feddygol a'r gymuned Asiaidd yng Nghymru'.

Cyflwynir y wobr i unigolyn "eithriadol" am chwarae rôl leol bwysig mewn busnes, elusen neu'r sector cyhoeddus. Mae'r Athro Upadhyaya yn arbenigo mewn ymchwilio i ffyrdd o wella bywydau pobl sydd wedi etifeddu cyflyrau iechyd sy'n peryglu eu bywyd.

Mae ei gwaith wedi trawsnewid y modd y caiff anhwylderau etifeddol eu canfod a'u trin. Mae'r anhwylderau hyn yn cynnwys nychdod cyhyrol (muscular dystrophy) a niwroffibromatosis Math 1 – cyflwr genetig sy'n achosi tiwmorau i dyfu ar hyd y nerfau.

Roedd ganddi rôl allweddol wrth ddod o hyd i enyn sy'n gysylltiedig â niwroffibromatosis Math 1. Bu hefyd yn flaenllaw wedi hynny wrth ddeall pam mae rhai tiwmorau diniwed sy'n gysylltiedig â'r cyflwr yn troi'n falaen.

Ar hyn o bryd, mae'n datblygu teclyn diagnostig arloesol sy'n galluogi diagnosis cyflym o anhwylderau genetig mewn pobl.

Ochr yn ochr â'i gwaith yn y Brifysgol a'r GIG, menywod mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig sy'n mynd â chryn dipyn o'i hamser.

Hi yw sylfaenydd a chadeirydd Gwobrau Cyflawniad Menywod Asiaidd yng Nghymru (WAWAA), Menywod Lleiafrifoedd Ethnig mewn Gofal Iechyd yng Nghymru (EMWWH), ac mae'n Ymddiriedolwr i nifer o sefydliadau elusennol yng Nghymru. 

Mae hefyd yn gwirfoddoli i hyfforddi plant i'w helpu i fynd i brifysgol ac mae'n aml yn gysylltiedig â gweithgareddau codi arian.

Wrth sôn am ei anrhydedd, dywedodd yr Athro Upadhyaya:

"Roeddwn wedi fy syfrdanu pan glywais am yr anrhydedd am y tro cyntaf. Mae'n anrhydedd ac yn fraint mawr i mi a hoffwn ddiolch a dangos fy ngwerthfawrogiad i fy nghydweithwyr, y tîm ymchwil, fy ffrindiau a fy nheulu am eu cefnogaeth barhaus.

"Gwraig tŷ oeddwn i pan gyrhaeddais y wlad hon a ni feddyliais erioed feddwl y baswn yn cael yr anrhydedd bwysig yma. Cefais y fraint o gael cyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, naill ai drwy fy ngwaith ymchwil meddygol neu drwy fy ngwaith cymunedol/elusennol."

Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Ar ran y Brifysgol gyfan, hoffwn longyfarch yr Athro Upadhyaya.

"Mae gwaith ymchwil hanfodol Meena Upadhyaya yn cael effaith ledled y byd ac rydw i wrth fy modd ei bod wedi cael ei hanrhydeddu fel hyn. Mae'r gwaith y mae'n ei wneud yn ei chymuned leol yr un mor bwysig ac mae'n dangos pa mor ddiflino yw hi a'i hymroddiad i'r achosion sy'n bwysig iddi."

Nes iddi ymddeol yn 2014, bu'r Athro Upadhyaya yn arwain Labordy Ymchwil a Datblygu Gwasanaeth Geneteg Feddygol Cymru Gyfan. Mae'n Athro Er Anrhydedd o hyd gyda'r Brifysgol ac mae'n parhau i gynnal ei gwaith ymchwil.

Yn cael eu hanrhydeddu eleni hefyd, roedd y cynfyfyriwr yr Athro Paul O'Brien FRS (OBE am wasanaethau i wyddoniaeth a pheirianneg); y cymrawd er anrhydedd Mr Simon Weston (CBE am wasanaethau elusennol); y cynfyfyriwr Dr Jennifer Margaret Harries (OBE am wasanaethau i iechyd cyhoeddus); y cynfyfyriwr a'r cymrawd er anrhydedd Mrs Carolyn Kirby (OBE am wasanaethau i gyfiawnder a gofal canser); y cynfyfyriwr Dr Alan Roy Wilson (OBE am wasanaethau i ansawdd a diogelwch gofal iechyd yng Nghymru); y tiwtor cyswllt (OPTOM) Mr Peter Hong (MBE am wasanaethau i optometreg); a'r cynfyfyriwr a'r cymrawd er anrhydedd Sian Phillips (DBE am wasanaethau i ddrama).

Rhannu’r stori hon