Ewch i’r prif gynnwys

Blwyddyn yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau

20 Mawrth 2020

Flwyddyn ers lansio’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, mae ei dîm o ymchwil wedi sicrhau buddsoddiad gwerth miliynau ar gyfer therapïau newydd ym maes iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth.

Lansiodd Prifysgol Caerdydd y Sefydliad ar 22 Mawrth 2019. Crëwyd y cyfleuster ymchwil newydd sefydledig er mwyn troi ymchwil biofeddygol arloesol y Brifysgol yn gyffuriau i gleifion ag angen meddygol heb ei ddiwallu. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r Sefydliad yn llwyddiannus wrth roi Cymru ar flaen y gad mewn arloesedd meddygol.

Mae’r Sefydliad wedi dod â thîm o wyddoniaeth amlddisgyblaethol sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang at ei gilydd sydd ag un nod cyffredin o gyflawni manteision i’r claf. Trwy wneud hyn, mae’n sefydlu ei hun yn gyflym fel cyfleuster ymchwil o’r radd flaenaf i ddarganfod cyffuriau.

Dywedodd yr Athro Simon Ward, Cyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau: “Pan wnaethom lansio’r Sefydliad yn 2019, roedd ein gweledigaeth yn uchelgeisiol. Ein nod oedd gwneud ein Sefydliad yn ganolbwynt ar gyfer darganfod meddyginiaethau ac arloesi ym Mhrifysgol Caerdydd a'r gymuned academaidd ehangach yn y Deyrnas Unedig.

“Rydym mewn sefyllfa berffaith i droi ein gwaith ymchwil yn gynhyrchion go iawn sy’n gallu gwella bywydau pobl ledled y byd. Flwyddyn yn ddiweddarach, rydym wedi bod yn tyfu fel Sefydliad ac mae eisoes gennym nifer o lwyddiannau o ran cyllid ac ymchwil.”

Ers ei lansio, mae’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau wedi datblygu portffolio ymchwil trawiadol, sy’n cwmpasu meysydd therapiwtig niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl – gyda’r prosiectau’n denu cyllid ymchwil gwerthu oddeutu £14 miliwn.

“Mae ein prosiectau ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu therapïau newydd a datblygedig ar gyfer clefydau a chyflyrau, o anhwylderau gorbryder yr holl ffordd i syndrom X brau. Flwyddyn ers lansio’r Sefydliad, rydym wedi gallu sicrhau buddsoddiad sylweddol i ariannu ein gwaith ymchwil.

“Mae hyn yn cynnwys £3.4 miliwn o’r Cyngor Ymchwil Meddygol i ariannu cyffuriau newydd ar gyfer anhwylderau gorbryder, £2.5 miliwn ar gyfer atalyddion LIMK1 er mwyn trin syndrom X brau a dyfarniad gan ISSF i ariannumeddyginiaeth newydd ar gyfer sgitsoffrenia.

“Mae ein llwyddiant wedi ein galluogi ni i fuddsoddi yn ein cyfleusterau, gan barhau i ddatblygu ein Sefydliad a sicrhau ei fod yn arwain o ran ei allu technolegol i ddarganfod meddyginiaethau. Cawsom £500,000 gan Sefydliad Wolfson i ariannu cyfres o Labordai Dilysu Targedau o’r radd flaenaf, i helpu ein hymchwilwyr i ddarganfod therapïau newydd ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl a niwrolegol,” ychwanegodd yr Athro Ward.

Yn ogystal â chynnig yr amgylchedd delfrydol i ddarganfod meddyginiaethau, mae’r Sefydliad hefyd yn sicrhau’r dyfodol o arloesedd meddygol yng Nghymru drwy hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr o safon fyd-eang.

Mae’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau wedi penodi ei fyfyriwr PhD cyntaf, Bedwyr Ab Ion Thomas, sy’n archwilio clefydau prion, megis mad cow disease a kuru.

Dywedodd yr Athro John Atack, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau: “Er bod gennym nifer o arbenigwyr mewnol yn eu maes sy’n arwain ein prosiectau ymchwil, rydym hefyd yn falch o hyfforddi ac ysbrydoli myfyrwyr a gwyddonwyr ar ddechrau eu gyrfa.

“Mae hyn yn golygu ein bod ni’n ceisio datblygu’r genhedlaeth nesaf o feddyginiaethau nesaf yn ogystal â datblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr darganfod meddyginiaethau yng Nghymru drwy ein gwaith ymchwil.”

“Mae ein blwyddyn gyntaf fel Sefydliad wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae ein prosiectau, ein therapïau newydd a’n hymchwilwyr wedi datblygu. Rydym yn edrych ymlaen at yr hyn sydd ar y gweill y flwyddyn nesaf ar gyfer y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau,” meddai’r Athro Ward.

Rhannu’r stori hon