Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Cyfryngau Cymru’n cydnabod dawn ysgrifennu Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

19 Mawrth 2020

Professor Laura McAllister and Nest Jenkins
Celebrated writers: Professor Laura McAllister and Nest Jenkins

Caiff cymuned Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ei chynrychioli mewn dau gategori yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru eleni.

Mae Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru, Laura McAllister wedi’i henwebu am y wobr Colofnydd y Flwyddyn ac mae Nest Jenkins, sy’n astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg wedi’i henwebu am Wobr Myfyriwr y Flwyddyn Ed Townsend.

Mae’r Athro McAllister wedi’i chydnabod yn y categori Colofnydd y Flwyddyn am ei cholofn yn The Western Mail/Wales Online. Mae’r wobr yn dathlu sgiliau ysgrifennu newyddiadurol da, darnau sy’n ymwneud â’r newyddion neu ddarnau cyffredinol sy’n mynegi barn ac sydd wedi’u creu yng Nghymru ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru.

Wrth siarad am y wobr, dywedodd yr Athro McAllister, “Mae’n fraint cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr Colofnydd y Flwyddyn. Gyda chynifer o awduron yn y cyfryngau yng Nghymru, rwy’n falch iawn o fod mewn cwmni mor fawreddog. Mae cael colofn reolaidd mewn papur newyddion cyffredinol yn blatfform gwych, ac mae’n fraint cael llais i ddweud fy nweud ar bynciau sydd o ddiddordeb i mi – chwaraeon a gwleidyddiaeth yn bennaf!”

Mae Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Ed Townsend yn cydnabod y tair erthygl orau, straeon newyddion neu gyfres o erthyglau unigol neu straeon newyddion gan newyddiadurwr mewn addysg amser llawn. Mae’r wobr er cof am aelod hoffus ac uchel ei barch o bwyllgor Elusen y Newyddiadurwyr Rhoddir a chwaraeodd rôl arwyddocaol wrth ailsefydlu Gwobrau Cyfryngau Cymru.

Wrth siarad am ei llwyddiant wrth gyrraedd y rhestr fer, meddai Nest, “Mae’n fraint o’r mwyaf cael fy enwebu ar gyfer Gwobrau Cyfryngau Cymru, ymhlith rhai o’r enwau mwyaf yn y diwydiant. Mae’n deimlad gwych cael fy nghydnabod am waith rwy’n ei fwynhau mas draw, ac mae’n fy annog i barhau i ddatblygu gyrfa ym myd newyddiaduraeth. Rwy’n edrych ymlaen at y seremoni wobrwyo fel cyfle i ddathlu newyddiaduraeth yng Nghymru.”

Cynhelir Gwobrau Cyfryngau Cymru bob blwyddyn i ddathlu a hyrwyddo newyddiaduraeth wych yng Nghymru. Mae modd i newyddiadurwyr, ffotograffwyr, gweithredwyr camera, newyddiadurwyr fideo, gweithwyr llawrydd, newyddiadurwyr sy’n fyfyrwyr, blogwyr a flogwyr sy’n gweithio yng Nghymru gymryd rhan.

Oherwydd y sefyllfa bresennol sy’n datblygu o ran haint Coronafeirws (COVID-19), mae Gwobrau Cyfryngau Cymru wedi gohirio eu seremoni wobrwyo yr oedd disgwyl i’w chynnal ar 20 Mawrth 2020. Aildrefnwyd y seremoni i’w chynnal ar 6 Tachwedd 2020. Gellir cael yr holl fanylion ar wefan Gwobrau Cyfryngau Cymru.

Rhannu’r stori hon