Ewch i’r prif gynnwys

Arian Sbarduno ar gyfer ymchwil i ganser y pancreas

16 Mawrth 2020

Profile Photo of Ross Collins

Caiff dros 10,000 o achosion newydd o ganser y pancreas eu diagnosio yn y DU bob blwyddyn. Bydd cyllid newydd yn galluogi'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau i ymchwilio i therapïau newydd posibl ar gyfer y clefyd marwol hwn.

Mae Dr Ross Collins o Brifysgol Caerdydd wedi derbyn dyfarniad Sbarduno gwerth £3,000 i ymchwilio i rôl LIMK mewn canser, gyda diddordeb arbennig yn rôl y protein hwn mewn canser y pancreas.

"Mae'r protein LIMK yn ymwneud â llawer o swyddogaethau’r gell ac mae wedi'i gysylltu â chlefydau. Rwyf wedi bod yn gweithio ar brosiect yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau sy'n edrych ar dargedu LIMK mewn syndrom X brau, anhwylder genetig sy'n gysylltiedig ag anabledd deallusol.

"Mae fy nghefndir ymchwil ym maes metastasis canser, felly roeddwn am ddefnyddio fy mhrofiad ac yn ei gymhwyso i fioleg LIMK ac yn ymchwilio i sut y gallai'r protein hwn fod yn gysylltiedig â datblygiad canser. Byddaf yn edrych yn benodol ar ganser y pancreas, gan fod mawr angen am well triniaethau ar gyfer y canser hwn, rhywbeth nad yw’n cael ei ddiwallu."

Nod ymchwil Dr Collins yw ehangu ymchwil sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn y Sefydliad i fodelau clefydau newydd. Mae'r Sefydliad Canfod Meddyginiaethau yn ymchwilio i effeithiau atalyddion LIMK mewn syndrom X bregus, a gallai'r targedau cyffuriau hyn gael eu defnyddio mewn canser.

"Yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, rydym yn targedu meysydd o angen clinigol nas diwallwyd ac yn canfod dulliau therapiwtig ac arloesol newydd. Mae 1% o bobl sydd â chanser y pancreas yn goroesi 10 mlynedd neu fwy ar ôl cael diagnosis, felly byddai unrhyw driniaeth a allai ymestyn y cyfnod goroesi o fudd mawr i gleifion.

"Rydym yn gobeithio y byddwn, drwy dargedu LIMK, yn gallu dylanwadu ar nodweddion celloedd canser fel lleihau twf a goresgyniad celloedd.

"Bydd yr arian hwn yn caniatáu i mi sefydlu lefelau mynegiant LIMK mewn celloedd canser, asesu goblygiadau swyddogaethol atal LIMK a phennu unrhyw botensial therapiwtig sydd gan LIMK mewn canser. Y gobaith yw y bydd hwn yn gosod sylfaeni ar gyfer datblygu therapïau newydd yn y dyfodol ar gyfer canserau fel canser y pancreas,” meddai Dr Collins.

Rhannu’r stori hon