Ewch i’r prif gynnwys

100 diwrnod tan Hanner Marathon y Byd

17 Rhagfyr 2015

Sam Warburton 100 days

Enwogion yn cefnogi digwyddiad a noddir gan y Brifysgol

Mae capten rygbi Cymru, Sam Warburton, a'r rhedwraig fyd-enwog Paula Radcliffe, ymhlith yr enwogion sydd wedi dangos eu cefnogaeth ar gyfer Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd 2016.

Dyma'r digwyddiad athletau mwyaf erioed i gael ei gynnal yng Nghymru, a dydd Iau 17 Rhagfyr, bydd 100 diwrnod tan iddo gael ei gynnal ddydd Sadwrn y Pasg, 26 Mawrth.

Bydd dros 200 o athletwyr gorau'r byd o 50 o wledydd yn dod i Gaerdydd, er mwyn brwydro i gyrraedd y brig, a dod yn Bencampwr Hanner Marathon y Byd.

Bydd hyd at 20,000 o redwyr ras dorfol yn ymuno â nhw, a fydd yn cael y cyfle unigryw i 'redeg yn ôl-troed y goreuon' drwy gwblhau'r ras 13.1 milltir o amgylch Caerdydd ar yr un pryd ag athletwyr gorau'r byd.

Dywedodd seren rygbi Cymru a Gleision Caerdydd, Sam Warburton: "Bydd Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd yn ddigwyddiad arall arbennig i Gaerdydd a Chymru.

"Hoffwn ddymuno'n dda i bawb sy'n hyfforddi ar gyfer y digwyddiad. Rwy'n siŵr y bydd yn brofiad anhygoel."

Mae Rhag Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Elizabeth Treasure, a'r Athro Ian Hall o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, wedi bod yn cefnogi'r ras hefyd drwy gael tynnu eu llun gyda bwrdd hyrwyddo '100 diwrnod i fynd' a grëwyd yn arbennig.

Elizabeth Treasure cardiff 2016 marathon

Pan gynhelir y ras ym mis Mawrth, bydd yr Athro Hall yn cynnal gwaith ymchwil ar fwrdd llong ym mhen draw'r byd, ond mae'n bwriadu rhedeg 13.1 milltir drwy redeg o amgylch glanfa hofrenydd y llong.

Mae seren y Gleision, Warburton, a Frederico Macheda a Tony Watt o dîm pêl-droed Dinas Caerdydd ymhlith y wynebau enwog di-rif sydd wedi bod yn cefnogi Caerdydd 2016 drwy gael tynnu eu llun gyda'r bwrdd hyrwyddo, sydd wedi bod ar daith o amgylch y ddinas dros yr wythnosau diwethaf. Ewch i @Cardiff2016 ar Twitter i weld y lluniau i gyd.

Mae'r arwr rygbi Gareth Edwards, cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Non Evans, sêr presennol rygbi Cymru Rhys Webb, Lloyd Williams a Cory Allen, yr athletwr Christian Malcom, yr athletwyr blaenllaw o Brydain Meghan Beesley a Martyn Rooney, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer Chwaraeon, Diwylliant a Thwristiaeth, Ken Skates AC, a chadeirydd Chwaraeon Cymru Laura McAllister i gyd wedi bod yn cefnogi Caerdydd 2016.

Dywedodd Matt Newman, prif weithredwr trefnwyr Caerdydd 2016, Run 4 Wales: "Dim ond 100 diwrnod sydd tan Bencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd 2016, ac mae'r ddinas yn dechrau cyffroi drwyddi. Mae wedi bod yn braf gweld cynifer o bobl o fyd chwaraeon Cymru yn cefnogi'r digwyddiad.

"I'r rheini nad ydynt wedi cofrestru eto, mae 100 diwrnod i fynd o hyd, felly mae digon o amser i chi wisgo eich esgidiau rhedeg a pharatoi ar gyfer digwyddiad na ddylid ei golli."

I gael rhagor o wybodaeth am Bencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd, ac i gofrestru, ewch i www.cardiff2016.co.uk. Neu gallwch ddilyn y digwyddiad ar Twitter: @cardiff2016 a Facebook: IAAF/Cardiff University World Half Marathon Championships 2016.

Rhannu’r stori hon