Ewch i’r prif gynnwys

Yr NFL yn cefnogi deunydd i atal anafiadau i'r ymennydd

16 Rhagfyr 2015

3D printed material for helmets

Deunydd 3D newydd wedi'i argraffu a ddatblygwyd gan ymchwilwyr Prifysgol yn cael arian yn rhan o 'Head Health Challenge' a gefnogir gan yr NFL

Mae arian wedi'i ddyfarnu i ddatblygu deunydd newydd a grëwyd gan ymchwilwyr o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â'r dylunydd a'r gwneuthurwr helmedau blaenllaw, Roy Burek o Charles Owen Inc.

Dyfarnwyd yr arian gan gonsortiwm o gefnogwyr o UDA, sydd am ddatblygu technolegau'r genhedlaeth nesaf i atal anafiadau i'r ymennydd.

Mae'r tîm wedi cael $250,000 i ddechrau fel rhan o brosiect 'Head Health Challenge', a ariennir gan GE Healthcare, NFL, Under Armour, a'r Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg.

Defnyddir y wobr i ariannu prosiect 12 mis a fydd yn defnyddio technoleg uwchgyfrifiadura ac argraffu 3D modern i ddatblygu deunydd unigryw, sy'n amsugno ynni.

Dywedodd y panel adolygu ariannol y gallai'r deunydd aml-haen, elastig, o'r enw C3, fod yn arloesol. Gellir ei ddylunio'n fanwl-gywir gan ddefnyddio modelu mathemategol, a'i brofi gan ddefnyddio uwchgyfrifiaduron er mwyn ei deilwra, yn y pen draw, ar gyfer sefyllfaoedd lle ceir trawiadau penodol.

Mae hyn yn caniatáu i'r tîm brofi dyluniadau amrywiol cyn adeiladu'r deunydd gydag argraffydd 3D, sy'n ddull llawer mwy effeithlon a chost-effeithiol o'i gymharu â thechnegau traddodiadol. Yn ystod y broses argraffu 3D, caiff powdr sydd â pholymer yn sail iddo, ei ymdoddi yn siâp penodol gan laser, sy'n caledu'r deunydd i ffurfio strwythur cryf a hyblyg.

Gellir cynllunio strwythurau yn y fath fodd fel y gellir gwasgaru ynni trawiadau yn gymharol rhwydd, gan ei wneud yn ddeunydd delfrydol i'w ddefnyddio mewn dillad ac ategolion amddiffynnol.

Drwy gydol y flwyddyn, bydd ymchwilwyr o'r Ysgol Peirianneg yn cydweithio'n agos â Charles Owen, Inc., i wella'r deunydd a phrofi ei gadernid yn erbyn nifer o wahanol sefyllfaoedd lle ceir trawiadau.

Dywedodd Roy Burek, Llywydd a Phrif Weithredwr Charles Owen, Inc.: "Dechreuodd fy nhad-cu, Charles Owen, wneud helmedau i amddiffyn milwyr Prydain ym 1911, cyn symud ymlaen i wneud helmedau beic modur ym 1925, ac yna helmedau marchogol (helmedau jocis yn arbennig) ym 1938.

"Mae'r hanes llewyrchus hwn o weithgynhyrchu cynnyrch arloesol sy'n cynyddu diogelwch y pen, wedi cadw'r brand wrth galon y maes datblygu helmedau ers dros 100 mlynedd. Dim ond yn y 15 mlynedd diwethaf y mae ein gwybodaeth am sut caiff yr ymennydd ei anafu, a'r ffordd orau i'w amddiffyn, wedi newid yn ddramatig, ynghyd â phrosesau dylunio a gweithgynhyrchu helmedau. Rwyf wrth fy modd o gael bod yn rhan o brosiect sy'n gwthio datblygiad deunyddiau a thechnolegau amddiffyn cwbl newydd, er mwyn i ni allu atal anafiadau i'r ymennydd yn well, mewn sawl maes."

Yn ôl Dr Peter Theobald, Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n arwain y prosiect: "Mae strategaethau i atal anafiadau pen wedi aros yn eu hunfan i raddau helaeth, o'i gymharu â datblygiad technolegau eraill.  Mae ein cydweithrediad rhyngwladol â Charles Owen Inc. wedi ein galluogi i gronni ein sgiliau ac arbenigedd hynod berthnasol o ran atal anafiadau, mecaneg, gweithgynhyrchu a masnacheiddio."

"Mae'r dull hwn o weithio eisoes wedi ein galluogi i ddatblygu C3 sydd, yng ngeiriau ein gwerthuswyr, yn ddeunydd a allai fod yn arloesol, sy'n addawol iawn o ran gallu dygymod yn well a chydrannau fertigol a llorweddol trawiad anuniongyrchol.  Mae'r dyfarniad pwysig hwn yn rhoi llwyfan i ni barhau i ddatblygu C3 er mwyn cyrraedd ein nod o sicrhau deunydd sy'n arwain at newid sylweddol o ran iechyd a diogelwch y pen, a chyflawni metrigau sy'n sicrhau hyfywedd masnachol."

Rhannu’r stori hon